Mae arolwg newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi taflu goleuni ar arferion a barn pobol yng ngwledydd Prydain yn ystod y cyfnod clo – o ba mor llym ddylai’r heddlu fod o ran pellter cymdeithasol a gwisgo mygydau, i gynllun bwyta allan newydd.
Mae’r arolwg hefyd yn edrych ar farn rhieni am anfon eu plant yn ôl i’r ysgol neu i’r coleg, a faint o deuluoedd sydd wedi ffurfio aelwydydd estynedig.
Yn ôl yr arolwg, dywedodd:
• 93% o oedolion eu bod nhw wedi clywed am y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, ac 11% eu bod nhw eisoes wedi bwyta allan ac wedi derbyn y disgownt, a dywedodd 41% arall eu bod nhw’n debygol neu’n debygol iawn o ddefnyddio’r cynllun hwn yn ystod mis Awst.
• 69% o oedolion eu bod nhw’n credu y dylai’r heddlu fod yn llym iawn neu’n llym wrth orfodi rheolau i helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws. Roedd hyn yn uwch (80%) ymhlith y rhai 70 oed neu’n hŷn. Dim ond 15% o oedolion sy’n credu bod yr heddlu’n llym iawn neu’n llym wrth orfodi’r rheolau hyn.
• 55% o oedolion eu bod nhw’n cefnogi’n gryf gyfyngiadau wedi’u targedu ar gyfer ardaloedd lleol sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws ac eto, roedd y rhai 70 oed a throsodd yn fwy tebygol (70%) i gefnogi hyn. Roedd y cymorth yn uwch yng Nghymru (62%) a’r Alban (61%) nag yn Lloegr (54%).
• O’r rhai â phlant o oedran ysgol y tymor nesaf nad oeddent eisoes wedi dychwelyd, dywedodd 90% ei bod yn debygol iawn neu’n weddol debygol y bydd y plant neu’r bobl ifanc ar eu haelwydydd yn dychwelyd i’r ysgol neu’r coleg pan fydd yr ysgol yn ailagor yn y tymor newydd.
• 58% o oedolion â phlant oedran ysgol yn y tymor nesaf eu bod yn bryderus iawn neu’n poeni rhywfaint am y plant neu’r bobol ifanc yn eu cartref yn dychwelyd i’r ysgol neu’r coleg. Roedd y prif bryder a gafodd ei nodi gan 60% yn ymwneud â’r plentyn neu’r plant yn dal y coronafeirws yn yr ysgol neu’r coleg.
• Mae nifer y ‘swigod cymorth’ wedi bod yn cynyddu dros amser. Ar ddechrau mis Gorffennaf, roedd 26% o oedolion yn Lloegr a’r Alban wedi ffurfio un, sydd ers hynny wedi codi i 44% o oedolion ym Mhrydain Fawr (cyflwynodd Cymru ‘swigod cymorth’ o 6 Gorffennaf