Mae angen gwell ymdrech gan gwleidyddion er mwyn sicrhau bod Prydain yn hunangynhaliol o ran cynhyrchu bwyd, yn ôl NFU Cymru.
Mae’r Deyrnas Unedig yn cynhyrchu 64% o’r bwyd mae’n ei fwyta – felly mae’n ddibynnol ar allforion yn hyn o beth.
A phe bai wedi dibynnu’n llwyr ar fwyd sydd wedi ei chynhyrchu ym Mhrydain o Ionawr 1 ymlaen, byddai cyflenwadau wedi dod i ben heddiw (Awst 21).
I nodi’r diwrnod symbolaidd yma, mae John Davies, Llywydd NFU Cymru, wedi galw ar lywodraethau Cymru a San Steffan i leihau dibyniaeth ar fwyd sy’n cael ei gynhyrchu dramor.
“Cyfle euraidd”
“Mae’r economi cyfan yn anelu at ailadeiladu ei hun yn fersiwn gwell, a fersiwn gwyrddach,” meddai.
“Gall ffermio Cymreig a Prydeinig fod yn rhan ganolog o’r adferiad gwyrdd yna.
“Dyma gyfle euraidd i flaenoriaethu diogelwch bwyd oddi fewn i’n sustem fwyd, ac i ddod yn arweinwyr y byd o ran cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
“Mae gennym y gallu i wneud cymaint yn fwy. Dydyn ni methu gadael i’n hunangynhaliaeth grebachu ymhellach.
“Mae gan lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru rhan hanfodol i’w chwarae yn hyn o beth.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.