Mae meddygon mewn ysbyty yn Omsk yn Rwsia yn gwrthod trosglwyddo arweinydd gwrthblaid i ysbyty yn yr Almaen.
Mae Alexei Navalny mewn coma mewn uned gofal dwys ar ôl achos posib o wenwyno sy’n cael ei gysylltu â’i yrfa wleidyddol.
Yn ôl meddygon, mae’n rhy wan i gael ei drosglwyddo i’r Almaen ac mae’n dal mewn cyflwr ansefydlog.
Cafodd ei daro’n wael wrth hedfan o Tomsk i Fosgo ddoe (dydd Iau, Awst 20) ac fe gafodd ei gludo i’r ysbyty ar ôl i’r hediad gael ei ddargyfeirio i ddinas Omsk.
Yn ôl ei dîm, mae awyren ar gael ac yn barod i’w gludo i’r Almaen ac fe gafodd “sylwedd peryglus iawn” ei ganfod yn ei gorff.
Yn y ddalfa dro ar ôl tro
Fe fu Alexei Navalny yn y ddalfa droeon o’r blaen ac mae wedi’i aflonyddu gan grwpiau pro-Kremlin yn gyson yn y gorffennol.
Yn 2017, fe wnaeth nifer o ddynion ymosod arno a thaflu hylif gwenwynig yn ei wyneb gan achosi niwed i’w lygaid.
Cafodd ei gludo o’r ddalfa i’r ysbyty y llynedd yn ystod cyfnod o garchar am drosedd weinyddol, a hynny hefyd yn dilyn achos posib o wenwyno.
Fe gyflwynodd ei enw i herio’r Arlywydd Vladimir Putin yn yr etholiad yn 2018, ond fe gafodd ei atal rhag sefyll.
Ers hynny, mae e wedi bod yn cefnogi sawl ymgeisydd i herio’r blaid lywodraeth ledled y wlad, a chafodd un o’i gefnogwyr ei arestio yn nwyrain y wlad yr wythnos ddiwethaf ar ôl galw am streic mewn rali.