Mae’r sïon yn tewhau, yn sgil cyhoeddiad diweddar gan Gastell Gwrych, mai yng ngogledd Cymru y bydd y gyfres nesaf o I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! yn cael ei ffilmio.

Mae’r gyfres deledu boblogaidd ar ITV wedi’i lleoli yn Awstralia fel arfer, ac mae’n gorfodi selebs i wynebu heriau lliwgar – o ymbalfalu trwy lysnafedd i fwyta pryfed.

Ond yn sgil yr argyfwng Covid-19, mae’r tîm cynhyrchu wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei chynnal yn y Deyrnas Unedig eleni, ac mae cryn ddyfalu mai yn y castell yn Abergele fydd ei chartref newydd.

Mae datganiad ar dudalen Twitter y castell yn nodi y bydd yn “cau dros dro i’r cyhoedd” o Awst 23 hyd at y flwyddyn newydd.

“Cadwch lygad ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhagor o ddiweddariadau,” meddai’r datganiad.

Y datganiad

Wnaeth 10 miliwn o bobol wylio pennod olaf y gyfres ddiwethaf.