Mae rhagor o wleidyddion yn Iwerddon wedi camu o’r neilltu ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod nhw wedi mynd i ginio golff yn Galway.

Daeth cadarnhad fore heddiw (dydd Gwener, Awst 21) fod y Gweinidog Amaeth Dara Calleary wedi ymddiswyddo am ei ran yn y digwyddiad a gafodd ei gynnal er gwaethaf cyfyngiadau’r coronafeirws.

Bellach, mae’r Seneddwr Jerry Buttimer wedi gadael ei swydd yn Seanad Leas Cathaoirleach, neu Gadeirydd y Senedd ar ôl iddo yntau hefyd fod yn y digwyddiad.

Mae’n dweud iddo wneud hynny “ar adeg pan fo pobol o bob sector o’r gymdeithas Wyddelig wneud eu gorau i gadw pawb yn ddiogel yn ystod y pandemig byd-eang hwn”, ac mae e wedi ymddiheuro’n “ddi-ben-draw”.

Un arall sydd wedi ymddiheuro yw’r aelod seneddol Noel Grealish, ac yntau’n gapten ar y gymdeithas gynhaliodd y cinio, ond mae’n dweud iddo eistedd wrth fwrdd lle’r oedd chwech o bobol yn cadw pellter oddi wrth ei gilydd, ac mae’n dweud iddo gael sicrwydd bod y digwyddiad yn cadw at y rheolau.

Rhagor o ddatganiadau

Mae Aodhan o Riordain, aelod o’r Blaid Lafur, yn galw ar ragor o bobol oedd yn y cinio i egluro’u sefyllfa, ac mae e’n galw ar i’r Dáil ddod ynghyd yr wythnos nesaf.

“Mae angen i Gomisiynydd yr Undeb Ewropeaidd wneud datganiad heddiw,” meddai am Phil Hogan, un arall oedd yn y cinio.

“Dw i eisiau eglurhad ynghylch pam ei fod e’n teimlo’i bod yn briodol iddo fe fod yn y digwyddiad.

“A aeth e i gwarantîn am bythefnos pan ddaeth e’n ôl o Frwsel?”

Mae e hefyd wedi galw ar y Garda, neu’r heddlu, i gadarnhau a ydyn nhw’n cynnal ymchwiliad, gan ddweud bod yna ddirwy o 2,400 Ewro i unrhyw un sy’n gweithredu’n groes i gyfyngiadau’r coronafeirws, yn ogystal â chwe mis o garchar am y troseddau mwyaf difrifol.