Mae ymchwil newydd yn dangos bod llai o bobol yn taro rhech yng Nghaerdydd nag mewn dinasoedd eraill yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl yr ymchwil, dim ond wyth gwaith y dydd y bydd pobol yng Nghaerdydd yn gweld yr angen i daro rhech, tra bod pobol yn Rhydychen yn torri gwynt hyd at 23 gwaith y dydd.
Canfu’r astudiaeth hefyd fod pobol yn defnyddio ffyrdd dyfeisgar iawn i guddio’r angen i daro rhech.
Mae 38% yn ei ddal i mewn, 35% yn symud oddi wrth bobol eraill ac 13% yn ceisio cuddio’r ffaith eu bod nhw’n taro rhech drwy beswch.
Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos bod naw allan o bob deg o bobol yn credu bod perfedd iach yn bwysig i les unigolyn.
Annog pobol i daro rhech
“Mae perfedd iach yn golygu fy mod i’n hapus, yn hamddenol ac yn llawn egni,” meddai Lucy Gornall, Golygydd Iechyd a Ffitrwydd y cylchgrawn Woman & Home.
“Rwy’n gweld bod gan lawer o bobol gywilydd neu gywilydd siarad am dreuliad ac iechyd perfedd ond does dim rheswm i fod â chywilydd!
“Rydyn ni i gyd yn awyddus iawn y dyddiau yma i dorri rhai grwpiau bwyd allan o’n diet, a chymryd yr ychwanegiadau cywir, ond rydyn ni wedi anghofio mai’r hyn sy’n gwneud y perfedd fwyaf anhapus yw…. STRESS!
“Ydych chi erioed wedi sylwi pan rydych chi’n ymlacio ac yn cymryd hoe o’r gwaith, rydych chi weithiau’n teimlo’r ysfa i daro rhech?
“Neu, ar y llaw arall, pan fyddwch chi dan bwysau yn y gwaith i gyrraedd terfyn amser, a’ch stumog yn teimlo fel cwlwm gan nad yw’ch bwyd yn treulio’n iawn, y gall hyn eich gwneud yn llawn gwynt?
“Dyma beth mae straen yn ei wneud i ni a dwi’n annog pawb i geisio lleihau’r straen rydych arnoch o ddydd i ddydd.”
Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos bod 36% o bobol wedi dechrau bwyta diet iachach eleni, fod 32% wedi gwneud mwy o ymdrech i gerdded yn lle defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a bod 26% bellach yn cymryd fitaminau i wella eu hiechyd yn gyffredinol.
Y dinsasoedd sy’n taro gwynt amlaf (yn ôl y nifer bob dydd):
- Rhydychen – 23
- Leeds – 22
- Norwich – 21
- Sheffield – 17.5
- Newcastle – 17.4
- Caeredin – 16.93
- Llundain – 16.9
- Aberdeen – 16
- Glasgow – 15
- Manceinion – 13
Y dinasoedd sy’n taro gwynt lleiaf aml:
- Caerdydd – 8
- Coventry – 9.6
- Bryste – 10.3
- Nottingham – 10.7
- Southampton – 10.8