Mae dyn wedi cael ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd ar ôl cael ei ddal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau dair gwaith mewn tair wythnos.
Roedd pob un achos ar lonydd Sir Benfro ac ym mhob un achos wnaeth profion ddangos bod Anthony Joseph Thompson, 27, wedi bod yn smygu canabis.
Bellach, mae’r gŵr o Bencader wedi cael gwaharddiad gyrru tair blynedd o hyd, ac wedi cael ei orfodi i dalu cannoedd o bunnoedd o ddirwyon.
“Roedd canabis yn ei system bob tro,” meddai cwnstabl Richard Mycroft, o Heddlu Dyfed-Powys.
“A thrwy ei weithredoedd, roedd yn dangos agwedd ddi-hid at ei ddiogelwch ei hun ac eraill.”
Tair trosedd i Gymro
Ar Ionawr 6, cafodd ei stopio yn Hwlffordd oherwydd doedd ei oleuadau cefn ddim yn gweithio.
Roedd yn gyrru Volkswagen Golf, ac roedd dau berson arall yn y car.
Ar ôl arogli canabis yn y car, wnaeth swyddogion gynnal prawf ar boer y gyrrwr, a daeth i’r amlwg ei fod wedi smygu canabis.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, a chafodd ei ryddhau dan ymchwiliad tra roedd sampl o’i waed yn cael ei brosesu.
Ar Ionawr 18, cafodd ei stopio ger Llanusyllt, a dangosodd prawf poer ei fod wedi bod yn smygu canabis, a chafodd prawf gwaed ei gynnal.
Fe ddigwyddod eto yn Glandy Cross ar Ionawr 26.
Roedd pob un prawf gwaed yn dangos ei fod wedi torri’r gyfraith.