Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn dal i wrthwynebu ffordd liniaru’r M4 a’i fod yn annhebygol o newid ei farn.

Fore heddiw (dydd Gwener, Awst 21), yn siarad â gorsaf radio LBC, dywedodd Grant Shapps, Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, bod angen i’r fath brosiectau ddigwydd er mwyn “cysylltu’r undeb”.

Ac wrth ymateb i gwestiwn ar y mater mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw, wnaeth Prif Weinidog Cymru ategu ei wrthwynebiad.

“Dydy fy safiad i ddim wedi newid, a fydd e’ ddim yn newid,” meddai.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddal lan gyda gwirionedd y sefyllfa.

“Mi glywais gyfweliad â’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth y bore ‘ma. Doedd e ddim i’w weld yn ymwybodol fod yna heol sy’n cysylltu Cymru a Lloegr. Mae gennym heol.

“Ac mi fydd ein gweithredoedd yn sicrhau bod yr heol yn gweithio’n iawn – gwawn ni hynny drwy leddfu’r problemau.

“Dw i’n derbyn bod yna broblemau o amgylch Casnewydd, a bod angen mynd i’r afael â nhw.

“Ond dyw adeiladu heolydd ddim yn mynd i ddelio â’r problemau rheiny.”

Y prosiect

Fis Mehefin y llynedd, cyhoeddodd Mark Drakeford na fyddai’r cynllun £1.6bn yn mynd rhagddo.

Roedd y prosiect wedi ei gynnig fel ffordd o fynd i’r afael â thagfeydd ger Casnewydd, ac mae yna bryderon am gyflwr y traffig yno.