Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio arolwg newydd i Gofeb Picton yng Nghaerfyrddin.
Mae’r obelisg 25 metr yng Nghaerfyrddin wedi arwain at drafodaeth danllyd, gyda rhai’n galw am waredu’r gofeb am ei fod yn coffáu Syr Thomas Picton.
I rai, roedd y ffigwr hwn yn arwr rhyfel y dylid ei goffáu, ond mae eraill yn credu bod y gofeb yn amhriodol o ystyried ei hanes tywyll a’r ffordd y bu iddo drin caethweision.
Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen trawsbleidiol a gafodd ei sefydlu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i wella amrywiaeth a mynd i’r afael â hiliaeth wedi dechrau drwy ofyn am farn pobol am Gofeb Picton yn y dref.
Eglurodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gydraddoldeb a chadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, mai nod y grŵp yw cynnal arolwg cyhoeddus yn gofyn i bobol a ydyn nhw’n credu bod angen i’r cyngor gymryd unrhyw gamau, a beth ddylai’r camau hyn fod.
“O ystyried y digwyddiadau diweddar ledled y Deyrnas Unedig mewn perthynas â’r ymgyrch ‘Mae Bywydau Du o Bwys’, mae llawer o drafodaeth wedi bod ynghylch cofeb Picton ac enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â Picton yn Sir Gaerfyrddin”, meddai.
“Nod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yw gofyn am farn pobol am yr hyn y dylai’r cyngor ei wneud gyda’r gofeb, os unrhyw beth o gwbl, a defnyddio’r adborth i lunio ein hargymhellion i’r Cyngor Llawn.
“Rwy’n gwybod bod y mater hwn yn sensitif iawn ac mae eisoes wedi achosi llawer o ddadlau o bob ochr ac rwy’n deall hynny’n llwyr, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio mai dim ond un mater yw hwn sy’n cael ei drafod gan y grŵp trawsbleidiol wrth i ni geisio gwaredu pob math o hiliaeth a gwahaniaethu yn ein cymdeithas.”
Bydd yr arolwg ar lein bydd yn ceisio canfod a oes gwahaniaeth barn gan bobol o wahanol oedran, gwahanol lefydd a grwpiau ethnig yn dodi ben fis Medi.