Mae mwy na 5,000 o ffoaduriaid wedi croesi’r Sianel i wledydd Prydain mewn cychod bach yn 2020.

Mae’r nifer wedi codi’n sylweddol dros fisoedd yr haf, ac fe fu’n rhaid i’r Awyrlu gael eu galw i ymateb i’r sefyllfa.

Mae lle i gredu bod 1,000 yn rhagor wedi cael eu hatal gan yr awdurdodau Ffrengig.

Daw hyn er i Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, ddweud y llynedd y byddai llai yn croesi erbyn hyn a’i haddewid yn ddiweddar i wneud teithiau dros y Sianel yn “hollol anhygyrch”.

Daw’r garreg filltir wrth i awdurdodau Ffrainc ymchwilio i farwolaeth unigolyn o Swdan y daethpwyd o hyd i’w gorff ar draeth yn Ffrainc yr wythnos hon.

Mae trafodaethau ar y gweill i geisio ateb i’r broblem.