Mae Darren Edwards wedi’i enwi’n hyfforddwr dros dro tîm rygbi merched Cymru.
Ar ôl i’r cyn-brif hyfforddwr Rowland Phillips adael y swydd ym mis Mawrth, mae Undeb Rygbi Cymru yn dal i chwilio am bobol i lenwi’r swydd.
Darren Edwards yw prif hyfforddwr tîm saith bob ochr dynion Cymru, ond mae Undeb Rygbi Cymru wedi dod â’r tîm i ben am gyfnod amhenodol oherwydd Covid-19.
Cyn hynny, bu’n hyfforddi Caerfaddon, y Dreigiau a thîm dan 20 Cymru.
Bydd Cymru yn wynebu’r Alban ar Hydref 31 – cafodd y gêm wreiddiol fis Mawrth ei gohirio yn sgil y coronafeirws.
‘Falch o fod yn ôl ar y cae rygbi eto’
Eglurodd Darren Edwards ei fod yn edrych ymlaen at yr her o hyfforddi tîm merched Cymru.
“Rwy’n mwynhau heriau ac rwy’n credu ein bod ni i gyd yn falch o fod yn ôl ar y cae rygbi eto ar ôl cyfnod mor hir,” meddai.
“Mae yna dîm cymorth da iawn y tu ôl i mi – bydd gweddill y tîm hyfforddi dros dro yn amhrisiadwy ar ôl arwain y garfan trwy gydol y tymor diwethaf.
“Mae’n amlwg bod chwaraewyr wedi gweithio’n galed iawn ar lefel bersonol dros y chwe mis diwethaf, ac yn ddiweddar gyda’u clybiau.
“Sylwais ar yr awyrgylch gwych yng ngharfan Merched Cymru’r llynedd ac mae’r awyrgylch yma yn allweddol i mi.”
“Mae gêm yr Alban yn cynnig y ffocws perffaith i ni i gyd a hynny 12 mis cyn Cwpan Rygbi’r Byd.”
Mae’r tîm yn defnyddio cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe i baratoi ar gyfer y gêm.
Carfan o 35
Mae carfan o 35 wedi ei henwi, ac mae’n cynnwys un chwaraewr heb gap, Laura Bleehen.
Siwan Lillicrap sydd wedi ei henwi fel capten unwaith eto.
Blaenwyr: Laura Bleehen (heb gap), Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Abbie Fleming, Cerys Hale, Cara Hope, Natalia John, Manon Johnes, Kelsey Jones, Molly Kelly, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap, Robyn Lock, Shona Powell-Hughes, Gwenllian Pyrs, Caryl Thomas
Olwyr: Keira Bevan, Hannah Bluck, Alecs Donovan, Lleucu George, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Courtney Keight, Kerin Lake, Caitlin Lewis, Ffion Lewis, Lisa Neumann, Kayleigh Powell, Paige Randall, Lauren Smyth, Elinor Snowsill, Megan Webb, Robyn Wilkins