Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi bod Rowland Phillips, prif hyfforddwr tîm merched Cymru, wedi gadael ei swydd.

Mewn datganiad, dywed yr Undeb ei fod e “eisiau ceisio cyfleoedd eraill”.

Fe fu yn ei swydd ers mis Gorffennaf 2016, ond fe fu Chris Horsman yn arwain y tîm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ei absenoldeb.

Datganiad

“Mae Rowland Phillips wedi gadael ei rôl am ei fod e eisiau ceisio cyfleoedd eraill,” meddai’r Undeb mewn datganiad.

“Hoffai Undeb Rygbi Cymru ddiolch i Rowland am ei gyfraniad a’i ymroddiad yn ystod ei gyfnod gyda ni, a dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.”