Mae’r tymor criced proffesiynol yng Nghymru a Lloegr wedi cael ei ohirio am o leiaf saith wythnos o ganlyniad i’r coronafeirws.
Dydy hi ddim yn glir eto beth fydd y drefn ar gyfer y tymor, gyda’r cyfnod cynharaf yn y tymor wedi’i neilltuo ar gyfer gemau pedwar diwrnod y Bencampwriaeth.
Ond yr hyn sy’n glir yw na fydd unrhyw griced cyn Mai 28.
Un opsiwn yw dechrau’r tymor heb dorf, wrth i’r awdurdodau ystyried sut i greu lle ar gyfer y Bencampwriaeth, cystadlaethau ugain pelawd y Vitality Blast a’r Can Pelen, yn ogystal â’r gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London.
Ar ben hynny, roedd disgwyl i Loegr herio India’r Gorllewin mewn cyfres o dair gêm brawf, gyda’r merched yn herio India.
Ymateb Morgannwg
Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud eu bod nhw’n cefnogi’r penderfyniad.
“Rydym wedi monitro sefyllfa Covid-19 yn agos, ynghyd â’r ECB a’r siroedd dosbarth cyntaf, ac rydym yn cefnogi’n llwyr y penderfyniad i ohirio dechrau tymor y siroedd,” meddai Hugh Morris, y prif weithredwr.
“Cafodd hwn ei wneud gyda lles ein chwaraewyr, ein hyfforddwyr, ein staff, ein haelodau a’n cefnogwyr ym mlaenau ein meddyliau.
“Tra bod elfen o ansicrwydd ynghylch pryd fydd y tymor yn dechrau, bydd y chwaraewyr yn parhau i weithio’n galed ar eu ffitrwydd corfforol a hogi eu technegau, fel y byddan nhw’n barod ar gyfer y tymor i ddod.
“Gyda’r mesurau bellach yn eu lle, gobeithio y byddwn ni’n gallu croesawu ein cefnogwyr yn eu holau yn fuan i Erddi Sophia y tymor hwn.
“Gobeithio fod pawb yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.”