Mae adroddiadau bod Gareth Bale am ddychwelyd i Spurs ar fenthyg, gyda’r opsiwn o symud yn barhaol o Real Madrid yn y pen draw.

Symudodd y Cymro 31 oed i Sbaen am £85.3m yn 2013, gan fynd yn ei flaen i ennill pedair medal yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Ond fe fu allan o’r tîm am gyfnodau hir o dan reolaeth Zinedine Zidane.

Mae lle i gredu bod trafodaethau eisoes ar y gweill, a bod Real Madrid yn barod i dalu canran sylweddol o’i gyflog pe bai’n symud oddi yno ar fenthyg.

Roedd adroddiadau cyn hyn y gallai symud i Manchester United ond bellach, mae’n ymddangos ei fod e’n ffafrio dychwelyd i’w hen glwb.

Wrth drafod ei sefyllfa’n ddiweddar, dywedodd fod y cyfan “yn nwylo’r clwb” a’u bod nhw “wedi gwneud pethau’n anodd iawn”.