Mae Egan Bernal, enillydd Tour de France y llynedd, allan o’r ras oherwydd anaf

Fe fyddai’r seiclwr 23 oed o Golombia, sy’n aelod o dîm Ineos gyda Geraint Thomas, wedi bod yn ceisio amddiffyn ei deitl ym Mharis y penwythnos nesaf.

Roedd e wedi colli rhywfaint o dir erbyn y penwythnos diwethaf, pan gollodd e fwy na saith munud a llithro allan o’r deg uchaf yn y Tour.

Fe wnaeth e barhau i golli tir erbyn ddoe (dydd Mawrth, Medi 16), ond roedd e’n benderfynol o geisio gorffen y ras er mwyn ei pharchu.

Ond daeth cadarnhad erbyn hyn na fydd hynny’n bosib, gyda’r seiclwr yn cyfaddef mai tynnu’n ôl yw’r “penderfyniad cywir”.

Anafiadau

Mae Egan Bernal wedi bod yn dioddef o anafiadau ers tro.

Bu’n rhaid iddo dynnu’n ôl o’r Criterium du Dauphine fis diwethaf ag anaf i’w gefn.

Erbyn yr wythnos hon, roedd ganddo fe boen yn ei goesau, ac mae disgwyl iddo fe orffwys am y tro cyn gwneud penderfyniad am weddill y tymor.

Fe allai fod yn barod am y Vuelta  Espana, sy’n dechrau ar Hydref 20.

Yn ôl Syr Dave Brailsford, y Cymro sy’n bennaeth ar Ineos, mae ei atal rhag parhau i rasio’n benderfyniad “doeth”.