Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn gobeithio y bydd eu gêm yn erbyn Watford yng Nghwpan Carabao yn cael ei darlledu ar y teledu.
Maen nhw yn nhrydedd rownd y gystadleuaeth ar ôl curo Caergrawnt o 1-0 neithiwr (nos Fawrth, Medi 15), wrth i Scott Twine sgorio’r unig gôl ar ôl 80 munud yn ei gêm gyntaf i’r Alltudion.
Bydd y rownd nesaf yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf (Medi 22-23).
Ond mae’r rheolwr yn dweud bod y tîm wedi colli sawl cyfle i fynd ar y blaen.
“Dw i wrth fy modd ac roedd yn berfformiad rhagorol o’r dechrau i’r diwedd,” meddai.
“Yr unig elfen siomedig oedd nifer y cyfleoedd wnaethon ni eu methu.
“Fe wnaethon ni greu un cyfle ar ôl y llall, wedi cael cynifer o ergydion a chiciau cornel, a 72% o’r meddiant.
“Gadewch i ni obeithio bod y gêm yn erbyn Watford ar y teledu oherwydd byddai hynny’n dda i’r clwb.
“Mae hi bob amser yn braf chwarae yn erbyn y timau mawr.
“Mae Watford newydd ddod i lawr o’r Uwch Gynghrair a bydd hi’n her anodd, ond yn un y byddwn ni’n edrych ymlaen ati.”