Mae disgwyl i ganolwr Cymru Jonathan Davies ddychwelyd i’r cae am y tro cyntaf ers mis Tachwedd.
Ond yn ôl Glenn Delaney, prif hyfforddwr y Scarlets, bydd rhaid aros tan yr unfed awr ar ddeg i weld a fydd yn dechrau’r gêm yn erbyn Toulon.
Bydd y Scarlets yn teithio i Ffrainc ddydd Sadwrn (Medi 19) ar gyfer gêm yn rownd wyth olaf cystadleuaeth Cwpan Her Ewrop.
Dydy’r canolwr heb chwarae ers gêm y fedal efydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan y llynedd.
Er hyn, cadarnhaodd prif hyfforddwr y Scarlets na fyddai Rhys Patchell na Liam Williams ar gael i’r rhanbarth y penwythnos yma.
Fe wnaeth Rhys Patchell anafu ei ysgwydd yng Nghwpan y Byd y llynedd, ac mae Liam Williams wedi anafu ei droed.
“Dwi ddim yn credu y bydd y ddau yn barod erbyn y penwythnos,” meddai Glenn Delaney.
“Byddai’n annheg iawn i mi chwarae rhywun sydd ddim yn barod.”
Cadarnhaodd y prif hyfforddwr nad oes achosion o’r coronafeirws o fewn carfan y Scarlets, a bod y rhanbarth yn disgwyl y canlyniadau diweddaraf cyn teithio i Toulon.