Mae adroddiad ar garchardai yng Nghymru yn dangos “pa mor wael y mae Cymru yn cael ei gwasanaethu gan y system gyfiawnder a reolir gan San Steffan”, yn ôl Leanne Wood, llefarydd Cyfiawnder a Chydraddoldeb Plaid Cymru.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod dedfrydau yn hirach yng Nghymru nag yn Lloegr a bod 143 o garcharorion yng Nghymru wedi cael eu rhyddhau i ddigartrefedd.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod cynnydd o 143% mewn ymosodiadau ar garcharorion yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam, a bod cynnydd mawr mewn hunan- niweidio yno.

‘Llywodraeth Cymru yn ogystal â San Steffan yn atebol’

“Rhaid i ni ddal Llywodraeth San Steffan yn atebol am y llanast maen nhw wedi’i wneud ond allwn ni ddim gadael i Lafur Cymru redeg yn rhydd chwaith,” meddai Leanne Wood.

Dydy’r system gyfiawnder ddim wedi ei datganoli i Gymru.

“Mae’r nifer sylweddol o gyn-garcharorion sy’n byw ar y strydoedd ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar yn rhywbeth y dylai’r Llywodraeth Lafur fod yn gwneud mwy yn ei gylch.

“Dylen nhw hefyd fod yn fwy rhagweithiol mewn meysydd datganoledig eraill sy’n gysylltiedig â’r system gyfiawnder fel cydraddoldeb, gofal iechyd troseddwyr, camddefnyddio sylweddau, diogelu plant ac addysg carchardai.

“Dylai’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru fod yn cynnig atebion i’r problemau hyn neu gamu o’r neilltu fis Mai nesaf fel y gall llywodraeth amgen wneud hynny.”

Cydraddoldeb

“Os ydym am roi diwedd ar hiliaeth a gwahaniaethu, rhaid i newidiadau ddigwydd ym mhobman,” meddai wedyn.

“Mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn sy’n dangos bod rhywun yn fwy tebygol o ddod i garchar os yw’n dod o grŵp du neu leiafrifoedd ethnig yn awgrymu bod llawer o waith i’w wneud yn y system gyfiawnder i sicrhau’r cydraddoldeb sydd ei angen ar ein cymdeithas.”

Methiannau sylfaenol yn y system gyfiawnder

Dywed llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod methiannau sylfaenol yn y system gyfiawnder.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau fod trefniadau yn eu lle i gartrefu carcharorion cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau,” meddai’r llefarydd.

“Er mwyn lleihau troseddau a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel, mae’n rhaid i garchardai adfer a gwella carcharorion, ac mae’n rhaid i’r gwaith barhau ar ôl i bobol adael y carchar.”