Mae rhagor o ysgolion yng Nghymru wedi gofyn i ddisgyblion a staff hunanynysu ar ôl achosion o’r coronafeirws.
Mae achosion yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Powys ac Ynys Môn.
Mae pump o ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gorfod gofyn i ddisgyblion a staff hunanynysu.
Profodd disgybl Blwyddyn 9 yn Ysgol Brynteg yn bositif, gan arwain at fwy na 200 o ddisgyblion a 15 aelod o staff yn hunanynysu.
Yn Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, mae 165 o ddisgyblion yn hunanynysu ar ôl i ddisgybl Blwyddyn 7 brofi’n bositif. Mae aelod o staff hefyd yn hunanynysu yn dilyn prawf positif blaenorol.
Mae 30 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff yn hunanynysu yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig ar ôl i aelod o staff brofi’n bositif.
Mae 30 o ddisgyblion ac un aelod o staff yn hunanynysu yn Ysgol Gynradd Penyfai.
Ac ar ôl i aelod o staff brofi’n bositif yn Ysgol Gynradd Llangynwyd, mae 19 o ddisgyblion ac 11 aelod o staff yn hunanynysu.
Powys
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau bod 78 o ddisgyblion ac un aelod o staff yn hunanynysu ar ôl i ddisgybl mewn ysgol uwchradd yn y sir brofi’n bositif am Covid-19.
Yn ôl y Cyngor, mae proses lanhau drylwyr wedi’i chynnal yn Ysgol Llanfyllin, a bydd modd i ddisgyblion eraill barhau i fynychu’r ysgol.
“Rwy’n deall y bydd rhieni yn bryderus ond mae’r broses hon o brofi ac olrhain cyswllt yn rhan o’r ‘normal newydd’ a lle mae ysgolion yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes achos dros gynhyrfu a phryderu,” meddai’r Cynghorydd Phyl Davies, Aelod o Gabinet y Sir dros faterion Addysg.
“Mae gennym oll ran i’w chwarae os ydym i osgoi brig mewn achosion yn y sir ac ailgyflwyno posibl ar fesurau cloi.”
Ynys Môn
Mae Cyngor Môn wedi cadarnhau bod un disgybl sydd yn mynychu Ysgol y Borth ym Mhorthaethwy ac un disgybl sydd yn mynychu Ysgol Llanfechell wedi cael profion positif.
Cafodd rhieni a staff wybod ddoe (dydd Mawrth, Medi 15), a chafodd cyngor profi ac olrhain ei roi gan y cyngor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dydy hi ddim yn glir faint o ddisgyblion a staff sydd wedi gorfod hunanynysu.