Mae llywodraethau olynol yn gyfrifol am benderfyniad Hitachi i dynnu’n ôl o Wylfa Newydd, yn ôl Undeb GMB.

Mae disgwyl cadarnhad o’r penderfyniad hwnnw heddiw (dydd Mercher, Medi 16).

Dywed yr undeb ei fod yn benderfyniad “hollol ragweladwy”, yn dilyn yr adroddiadau yn Japan am y cwmni sy’n ariannu’r prosiect.

Yn ôl y GMB, mae angen o leiaf chwech o orsafoedd ynni niwclear yng ngwledydd Prydain i ddiwallu anghenion ynni a thargedau gwyrdd y dyfodol.

‘Niwclear newydd yn hanfodol’

“Mae’r cyhoeddiad hollol ragweladwy hwn gan Hitachi yn ganlyniad methiant llywodraethau olynol i weithredu’n benderfynol ynghylch niwclear newydd, ac yn enwedig sut y caiff ei ariannu,” meddai Justin Bowden, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB.

“Mae ynni niwclear newydd yn hanfodol wrth gyflawni datgarboneiddio – yn enwedig pan fydd e ar y cyd â hydrogen.

“Dydy hi ddim yn gyd-ddigwyddiad fod llywodraethau sy’n ariannu’r prosiectau hyn o amgylch y byd, bron yn ddi-eithriad, yn fenthycwr ateb olaf pan ddaw i gadw’r goleuadau ymlaen.

“Mae’r arbrawf ffantasïol o geisio cael cwmnïau o dramor neu lywodraethau i ariannu ein hanghenion ynni yn y dyfodol yn gadael trigolion mwyaf cyffredin y wlad hon yn syfrdan.”