Dydy hi ddim yn ymddangos bod sefyllfa bysus ysgol ym Merthyr Tudful wedi gwella yr wythnos hon, ar ôl i rieni godi pryderon yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw’n orlawn.

Dywedodd y rhieni, sy’n gofyn am beidio â chael eu henwi, fod plant yn gorfod eistedd “yng nghôl ei gilydd” ar y daith i ysgol uwchradd Gymraeg Rhydywaun yn Aberdâr.

Mae golwg360 wedi gweld e-bost gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymateb i’r cwynion a gafodd eu gwneud ddydd Mercher diwethaf (Medi 9).

Yn y neges, mae’r Prif Swyddog Addysg yn dweud “fod eu swyddogion trafnidiaeth wedi darganfod fod y cwmni bysus wedi defnyddio bws llai gan fod nifer y disgyblion ar y bysus wedi bod yn isel – ac nid oeddent wedi ystyried fod yr holl ddisgyblion yn dychwelyd”.

“Mae’r broblem wedi cael ei datrys,” meddai’r neges wedyn.

“Mae trafnidiaeth ysgol wedi ei heithrio rhag reolau ymbellhau cymdeithasol – yr unig seddi gwag yw’r rhai tu ôl i’r gyrrwr.

“Efallai fod problemau yn codi gyda phlant hŷn yn rhoi bagiau ar eu seddi er mwyn atal y plant ieuengaf rhag eistedd.

“Mae’r holl fysus yn cael eu gwirio cyn gadael Rhydywaun yn y prynhawn, ac mae problemau wedi bod gyda phrinder seddi.

“Fel awdurdod rydym yn annog y defnydd o fasgiau, ond nid oes modd i’r cwmni bws orfodi hyn.

“Mae’n ofynol i yrrwyr bysiau wisgio masgiau oni bai eu bod wedi eu heithrio am resymau meddygol, ond rydym wedi codi hyn gyda’r cwmni,” meddai’r e-bost.”

“Nid yw’r broblem wedi ei datrys”

Er gwaetha’r ymateb, mae rhiant i ferch sydd ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Rhydywaun wedi dweud wrth golwg360 fod y bysus yn parhau i fod yn orlawn, gyda “thri pherson yn gorfod eistedd ar ddwy sedd, yn amlwg heb wregus”.

“Er gwaethaf yr ymateb gan y Cyngor, nid yw’n ymddangos fod y broblem wedi ei datrys,” meddai.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr yn mynnu bod “digon o le”

Erbyn hyn mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi dweud wrth golwg360 fod “digon o le ar y bysus ar gyfer yr holl ddisgyblion, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru”.

“Rydym yn deall fod rhai plant hŷn yn gosod bagiau ar seddi gan olygu nad oes lle i’r plant ieuengaf eistedd, ac rydym yn gweithio gydag Ysgol Gyfun Rhydywaun a’r Gweithredwr Trafnidiaeth i sicrhau bod pob sedd ar gael i’r disgyblion eu defnyddio,” meddai llefarydd.

“Mae’r ysgol yn parhau i wirio’r drafnidiaeth ar safle’r ysgol.

“Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa.”