Mae adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn dweud bod cannoedd o garcharorion yng Nghymru yn cael eu rhyddhau i ddigartrefedd.

Mae’r adroddiad yn dangos bod 543 o bobol wedi eu rhyddhau o garchardai Cymru heb gyfeiriad penodedig i fynd i fyw ynddo, ac felly heb gartref, rhwng 2018/19.

O garchar Caerdydd y cafodd y mwyafrif o bobol heb gartrefi eu rhyddhau (327), ac wedyn Abertawe (105), Y Parc (85), Y Berwyn (19), a’r Prescoed (saith).

Methiannau sylfaenol yn y system gyfiawnder

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru fod “gormod o lawer o garcharorion yn cael eu rhyddhau i ddigartrefedd”.

“Maen nhw’n llai tebygol o dderbyn swydd, a chael mynediad i addysg a gofal iechyd,” meddai.

“Dydy hi ddim yn syndod fod rhai yn troi at ddwyn, neu’n dewis mynd yn ôl i garchar er mwyn cael gwely sych a chynnes.

“Mae methiannau sylfaenol yn y system gyfiawnder pan fo pobol yn aildroseddu er mwyn cael pryd o fwyd a lle i gysgu.”

Dydy’r system gyfiawnder ddim wedi ei datganoli i Gymru.

Pwysleisiodd y blaid eu yn “gwybod fod cael cartrefi addas yn hanfodol i atal pobol rhag aildroseddu, ac i’w cynorthwyo i fyw bywyd heb droseddu”.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau fod trefniadau mewn lle i gartrefu carcharion cyn iddynt gael eu rhyddhau,” meddai’r llefarydd.

“Er mwyn lleihau troseddau a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel, mae’n rhaid i garchardai adfer a gwella carcharorion, ac mae’n rhaid i’r gwaith barhau ar ôl i bobol adael y carchar.”