Mae amcan Bil y Farchnad Fewnol “yn bwysicach na chyfraith ryngwladol” i’r Ceidwadwyr, yn ôl Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon.

Mae Hywel Williams wedi dweud wrth golwg360 fod Llywodraeth Prydain yn troi ei chefn ar y gyfraith drwy fwrw ymlaen gyda Bil y Farchnad Fewnol, ac y gallai hynny arwain at annibyniaeth i Gymru yn y pen draw, er ei fod yn ei ddisgrifio fel “ergyd garw os nad marwol” i ddatganoli.

Pasiodd y Bil, sy’n torri cyfraith ryngwladol, y darlleniad cyntaf yn San Steffan neithiwr (nos Lun, Medi 14) o 340 o bleidleisiau i 263 – mwyafrif o 77 o blaid Llywodraeth Geidwadol Prydain.

“Yn gyntaf, mae amcan y mesur yn bwysicach iddyn nhw na chyfraith ryngwladol, mae hynna yn beryglus i gyfraith a threfn ac yn syndod o beth gan eu bod yn galw eu hunain yn Blaid Cyfraith a Threfn,” meddai Hywel Williams.

“Yna, mae yno’r effaith gaiff hyn ar drafodaethau masnach gyda gwledydd eraill, oherwydd os ydi’r Llywodraeth yn dangos ei bod yn barod i dorri’r gyfraith, pwy all ymddiried ynddyn nhw?”

“Ergyd garw os nad marwol” i ddatganoli

Mae Hywel Williams yn disgrifio Bil y Farchnad Fewnol fel “ergyd garw os nad marwol i ddatganoli”, a hynny “oherwydd bydd materion datganoli nawr yn cael eu canoli”.

“Mae’r farchnad fewnol yn mynd i fod yn rhedeg pethau sydd wedi eu datganoli ar hyn o bryd,” meddai.

“Ond mae hyn yn gyson efo’r ffordd mae’r Blaid Geidwadol yn gweld y byd, yn eu llygaid nhw mae datganoli yn rhywbeth i gael ei roddi a’i dynnu yn ôl.

“Cafodd y refferendwm diwethaf ar ddatganoli ei ennill yn ysgubol felly does dim cefnogaeth i dynnu pwerau oddi wrth y Senedd yng Nghymru

“Dw i’n meddwl yn sicr y bydd hyn yn ychwanegu at y gefnogaeth i annibyniaeth.”

Daw hyn ar ôl i Gadeirydd YesCymru Siôn Jobbins ddatgan mai annibyniaeth yw’r “unig ffordd i achub datganoli”.

“Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ddim yn bodoli”

Aeth Hywel Williams yn ei flaen i ddweud nad yw “marchnad fewnol y Deyrnas Unedig ddim yn bodoli” a bod “angen i bobol beidio cael eu twyllo.”

“Dyw marchnad fewnol y Deyrnas Unedig ddim yn bodoli ar y cyfryw, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig y siarad fel ei fod o ac yn ceisio rhoi’r argraff ei fod yn bodoli.

“Ond mewn gwirionedd maen nhw’n sefydlu rhywbeth newydd, ac mae angen i bobol beidio cael eu twyllo.

“Maen nhw’n mynd ati ar hyn o bryd i greu sefydliadau newydd, megis y farchnad fewnol, ac yn fwriadol yn eu canoli nhw yn Llundain.”