Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi cynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â heriau’r coronafeirws yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’r Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf yn amlinellu sut fydd y gwasanaethau’n ymdopi â’r feirws ar adeg yn y flwyddyn sy’n brysurach nag arfer.

Mae’n dweud y bydd yr wythnosau i ddod yn allweddol wrth benderfynu a fydd angen cyflwyno mesurau mwy tynn eto i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Rydym oll yn gwybod fod y gaeaf bob amser yn adeg heriol o’r flwyddyn i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai.

“Gadewch i fi fod yn glir, bydd yr heriau y gaeaf hwn yn fwy fyth, o ystyried yr angen i ymateb i ymlediad y coronafeirws ac adfywiad y feirws dros yr wythnosau diwethaf.

“Bydd y dyddiau a’r wythnosau nesaf yn penderfynu a fydd angen i ni symud i gyflwyno mesurau mwy arwyddocaol er mwyn rheoli’r feirws.”

Mae’n dweud bod “rhaid bod yn barod ar gyfer y gwaethaf”.

Caiff y cynllun ei gefnogi gan becyn sefydlogi’r Gwasanaeth Iechyd sy’n werth £800m, yn ogystal ag arian ychwanegol sydd wedi’i roi i’r awdurdodau lleol a’r sector gofal.

Ymhlith y mesurau fydd yn cael eu cymryd fydd cynyddu capasiti gwelyau mewn ysbytai, cynyddu’r capasiti i gynnal profion, ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau, defnyddio technoleg ac ehangu’r rhaglen frechu yn erbyn y ffliw.

Bydd fferyllfeydd, llinell gymorth y Gwasanaeth Iechyd, optegwyr, deintyddion, unedau anafiadau, ymwelwyr iechyd, nyrsys cymunedol, bydwragedd a meddygon teulu i gyd yn gallu rhoi cyngor a thriniaeth y tu hwnt i’r hyn y mae modd ei wneud yn y cartref.

Yn ôl Vaughan Gething, gall dewis y gwasanaeth cywir “helpu i arbed amser staff y Gwasanaeth Iechyd fydd yn gweithio’n galetach nag erioed y gaeaf hwn”.

Mae’n annog pobol i ffonio 999 neu i fynd i’r ysbyty mewn argyfwng yn unig.

Mae modd gweld y Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf ar wefan Llywodraeth Cymru.