Mae Plaid Cymru’n galw am weithredu ar frys i fynd i’r afael â phroblemau wrth gynnal profion coronafeirws, yn dilyn awgrym mai Cymru sydd â’r gyfradd ‘R’ – y gyfradd heintio – uchaf o blith gwledydd Prydain.
Yn ôl Ysgol Iechyd a Meddyginiaeth Drofannol Llundain, roedd gan Gymru gyfradd ‘R’ o 1.43 yr wythnos ddiwethaf – sy’n golygu y gall pob person sydd wedi’i heintio drosglwyddo’r feirws i 1.43 o bobol ar gyfartaledd.
Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi galw ar y prif weinidog Mark Drakeford i gydnabod y ffigurau hyn gan ofyn beth mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn ei ddangos.
Fe ddywedodd wrth ymateb fod y gyfradd wedi codi’n uwch nag 1, ond wnaeth e ddim rhoi ffigwr penodol.
Cynnydd lleol
Mae sawl ardal, gan gynnwys Caerffili a Rhondda Cynon Taf, wedi gweld cynnydd yn nifer y rhai sydd wedi’u heintio’n ddiweddar.
Ac mae problemau wrth gynnal profion yn yr ardaloedd hynny wedi dod i’r fei, gyda rhai yn gorfod teithio’n bell i gael prawf.
Dim ond y rhai sydd â symptomau sy’n cael eu hannog i gael prawf ar hyn o bryd, ond mae Plaid Cymru am weld gwella’r data ar gyfer y rhai sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion posib er mwyn rhoi profion iddyn nhw hefyd.
Mae Adam Price hefyd yn galw am sicrhau bod rhwydwaith o labordai’n weithredol cyn mis Tachwedd “o ganlyniad i fyrder cynyddol y sefyllfa”.
‘Testun pryder mawr’
“Ar Fedi 11, roedd Ysgol Iechyd a Meddyginiaeth Drofannol Llundain yn adrodd fod ‘R’ Cymru’n 1.43, y gyfradd uchaf o ran twf yn y Deyrnas Unedig ac amser wedi dyblu o ryw chwe niwrnod,” meddai arweinydd Plaid Cymru.
“Mae hyn yn destun pryder mawr – yn y lle cyntaf fod y cynnydd hwn i lefel uwch nag 1 wedi cael ei gadarnhau gan y Gell Ymgynghori Technegol ac yn ail, y cyflymdra wrth i’r haint ledu i bob sir yng Nghymru.
“O ystyried byrder cynyddol y sefyllfa – a’r anawsterau gyda System Labordai’r Deyrnas Unedig – rhaid i ni gyflwyno’r rhwydwaith labordai poeth sydd wedi’u cynllunio cyn mis Tachwedd.
“Ac wrth i gapasiti dyfu, rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar brofi’r cysylltiadau heb symptomau fel y mae nifer o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, wedi dechrau ei wneud.
“Mae newid y ffiniau profi er mwyn adnabod y rhai sy’n heintus fel y gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion ar eu hynysu a’u trin nhw yn allweddol wrth atal yr ymlediad.”