Mae’r economegydd Dr John Ball yn dweud bod Bil y Farchnad Fewnol yn tanseilio dros 70 mlynedd o ddatblygiad economaidd yng Nghymru.
Fe wnaeth y ddeddfwriaeth – sy’n anwybyddu elfennau o fargen Brexit ac yn torri cyfraith ryngwladol – basio’r darlleniad cyntaf yn San Steffan neithiwr (nos Lun, Medi 14).
Mae nifer o wleidyddion, gan gynnwys y prif weinidog Mark Drakeford, eisoes wedi dweud y bydd y Bil yn rhoi “straen enfawr ar undeb y Deyrnas Unedig”.
“Un o brif ddyletswyddau’r Senedd yw datblygiad economaidd ac mae’n haws gwneud dewisiadau fel hyn ar lefel leol”, meddai Dr John Ball wrth golwg360.
“Bydd blaenoriaethau Llundain ar ddatblygu economaidd yn hollol wahanol i flaenoriaethau’r Senedd.
“Dwi wedi bod yn feirniadol iawn o’r Senedd, a Chynulliad Cymru, yn y gorffennol, yn bennaf oherwydd y diffyg arloesedd a chyfeiriad o ran datblygu economaidd.
“Ond y peth pwysig yw bod gan y Senedd y pŵer hwnnw, hyd yn oed os yw’n cael ei ddefnyddio’n wael a’i drefnu’n wael.
“Bydd y bil hwn yn cael gwared ar y pŵer hwnnw.
“Nid y cipio pŵer yn unig sy’n fy mhoeni, os bydd Llundain yn dechrau gwneud penderfyniadau am yr economi yng Nghymru, gallai arwain at broblemau difrifol.”
Dros 70 mlynedd o bwerau economaidd
“Llwyddiant neu beidio, gellir dadlau bod gennym ni bwerau datblygu economaidd ar wahân ers diwedd yr ail ryfel byd,” meddai’r economegydd.
“Cafodd corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd i helpu i ailddatblygu economi Cymru.
“Yna, cafodd y pwerau hyn eu trosglwyddo’n rhannol i Awdurdod Datblygu Cymru a Bwrdd Datblygu Cymru Wledig cyn trosglwyddo’r pwerau hynny i’r Senedd.
“Felly mae gennym bwerau datblygu economaidd ers dros 70 mlynedd – nawr dyma’r cipio pŵer y dylem ni fod yn poeni amdano.”
‘Ddim yn meddwl dwywaith am Gymru’
Eglura Dr John Ball fod datblygiad economaidd wedi digwydd ar lefel leol yn Lloegr yn ystod yr un cyfnod, ond ei fod yn pryderu y gallai’r ddeddfwriaeth newydd arwain at fuddsoddiad economaidd yn Lloegr yn unig.
“Os bydd cefnogaeth ar gael ar gyfer prosiect mawr ar gyfer y Deyrnas Unedig, yna’r siawns yw y bydd Llundain yn edrych i wneud y datblygiadau hynny yng ngogledd Lloegr, oherwydd dyna lle gwnaeth y Llywodraeth yma addo newid economaidd,” meddai.
“Y realiti gwleidyddol yw y bydd y Torïaid yn yr etholiad nesaf yn colli seddi yng Nghymru, tra bod angen iddyn nhw ddal ymlaen i seddi yng ngogledd Lloegr.
“Heb os, os bydd buddsoddiad economaidd newydd, yn enwedig o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, bydd yn mynd i rannau o Loegr heb feddwl dwywaith am Gymru.”