Mae’r cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol Charlie Elphicke wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd am ddau ymosodiad rhyw ar ddwy ddynes.

Dywedodd y barnwr fod cyn-Aelod Seneddol 49 oed Dover yn “ysglyfaeth rhywiol” oedd wedi dweud “pentwr o gelwyddau”.

Cafwyd e’n euog o dri chyhuddiad ar ddiwedd achos sydd wedi datgelu celwyddau’r cyfreithiwr wrth yr heddlu, cydweithwyr yn y Blaid Geidwadol a’i wraig.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark.

Bydd yn rhaid iddo fe dalu costau llys gwerth £35,000 er ei fod e mewn “cryn ddyled” a’i fod e wedi gorfod benthyg £100,000 gan ei wraig i dalu costau cyfreithiol.

Daeth ei briodas â’i wraig i ben yn sgil yr achos, ac mae e hefyd wedi colli perthynas â’i ferch 20 oed, Charlotte.

Ond mae’n dal i fynnu ei fod yn ddieuog, gan ddweud y bydd yn apelio yn erbyn y ddedfryd, ac mae ei wraig yn ei gefnogi yn hynny o beth gan ddweud na chafodd e wrandawiad teg.

Y troseddau

Clywodd y llys fod un ddynes yn ei 30au wedi cael gwahoddiad i gael diod gyda Charlie Elphicke tra bod ei blant yn cysgu a’i wraig yn gweithio oddi cartref yn 2007.

Fe wnaeth e ofyn cwestiynau o natur rywiol iddi  cheisio’i chusanu a gafael yn ei bron cyn ei chwrso o amgylch ei gartref yn dweud ei fod yn “Dori drwg”.

Dywedodd Charlie Elphicke ei fod yn credu bod y ddynes eisiau ei gusanu.

Dywedodd dynes arall iddo geisio ei chusanu a’i fod wedi cyffwrdd ynddi pan aethon nhw am ddiod gyda’i gilydd yn San Steffan yn 2016.

Dywedodd wrthi ei fod e’n “ddrwg weithiau”, ac fe wnaeth e geisio ei chusanu droeon er ei bod hi “wedi’i ffieiddio” ganddo.

Dywedodd ei fod e wedi ymosod arni eto fis yn ddiweddarach wrth gyffwrdd yn ei choes cyn rhedeg ei law i fyny.

Dywedodd Charlie Elphicke fod ganddo fe deimladau cryf tuag ati, ond fe wadodd iddo ymosod arni.

Gwadu a chelwyddau

Pan gafodd ei herio gan y Blaid Geidwadol yn 2017, fe wadodd ei fod yn ymwybodol o’r honiadau yn ei erbyn.

Fe wnaeth e gyfaddef hefyd iddo ddweud celwydd wrth yr heddlu, a’i fod yn hyderus na fyddai’n cael ei erlyn ac y gallai gelu’r cyfan oddi wrth ei wraig.

Fe gollodd e chwip y blaid yn 2017 cyn ei adennill flwyddyn yn ddiweddarach er mwyn cefnogi’r prif weinidog Theresa May mewn pleidlais hyder allweddol.

Collodd e’r chwip eto pan benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ddwyn achos yn ei erbyn.

Mae aelod seneddol Ceidwadol arall, nad yw wedi cael ei enwi, ar fechnïaeth ar hyn o bryd ar ôl cael ei arestio fis diwethaf ar amheuaeth o dreisio.