Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog pobol i beidio â thalu eu trwydded deledu “nes bod darlledu’n cael ei ddatganoli” i Gymru.
dweud bod penderfyniad BBC Cymru i ddirwyn y darllediadau coronafeirws o’r Senedd i ben yn dangos bod angen pwerau darlledu ar Gymru.
Mae BBC Scotland hefyd wedi penderfynu dirwyn darllediadau’r prif weinidog Nicola Sturgeon i ben yno.
Yn ôl y Gymdeithas, mae’r penderfyniad yng Nghymru’n “annerbyniol am sawl rheswm”.
“Yn gyntaf, mae diweddariadau’r Llywodraeth yn rai hynod o bwysig o ran iechyd cyhoeddus, ac felly mae’r penderfyniad i beidio â’u darlledu i gyd yn fyw ar y teledu o’r wythnos hon ymlaen yn un gwbl esgeulus,” meddai Carl Morris.
“Hefyd, mae’r cynadleddau hyn wedi bod yn gyfle gwych i’r cyhoedd wrando ar newyddiadurwyr yn craffu ar ymateb y Llywodraeth i’r pandemig, ac felly bydd y penderfyniad hwn yn lleihau atebolrwydd cyhoeddus a democrataidd ar fater mor ddifrifol.
“A’r penderfyniad hwn yw’r enghraifft ddiweddaraf o’r BBC yn gadael pobol Cymru i lawr ac yn profi’r angen am ddatganoli pwerau darlledu i’n Senedd.”
Y BBC ddim ‘wedi addasu’n llawn i’r cyd-destun datganoledig’
Yn ôl Leia Fee, hefyd o Gymdeithas yr Iaith, mae’r penderfyniad yn dangos nad yw’r BBC “wedi addasu’n llawn i’r cyd-destun datganoledig yr ydym yn byw ynddo”.
“Mae’r penderfyniadau hyn gan BBC Cymru a BBC Scotland yn profi rhywbeth yr ydym wedi bod yn ymwybodol ohonno ers tro bellach, sef nad yw’r gorfforaeth wedi addasu’n llawn i’r cyd-destun datganoledig yr ydym yn byw ynddo, ac nad yw’n parchu’n llawn awdurdod Llywodraeth Cymru a llywodraethau ddatganoledig eraill,” meddai.
“Mae pobol Cymru’n haeddu cael darlledwr sydd o ddifrif ynghylch ei rôl o ddarparu’r wybodaeth gyfredol gan yr awdurdodau i’w gynulleidfa, ac yn rhoi cyfleoedd digonol i graffu ar waith y Llywodraeth – yn enwedig pan fo’r gwaith hwnnw’n ymwneud â’n hiechyd ni gyd.
“Yr ateb amlwg i hyn yw trosglwyddo holl bwerau darlledu i Gymru a sefydlu darlledwyr cyhoeddus newydd i Gymru.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n teimlo’n gryf ynghylch hyn i ymrwymo i beidio â thalu am eu trwydded deledu nes bod darlledu’n cael ei ddatganoli i’n Senedd.”