Mae 5,000 yn llai o bobol mewn gwaith yng Nghymru o’i gymharu â mis Mehefin, yn ôl ystadegau chwarterol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ym Mehefin, roedd 316,500 o weithwyr yng Nghymru ar gynllun ffyrlo Llywodraeth Prydain.

Yn sgil yr ystadegau hyn, mae Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i amddiffyn a chreu swyddi.

“Bygythiad o ddiweithdra torfol”

“Mae’r ystadegau hyn yn peri pryder,” meddai Shavanah Taj.

“Gyda chymorth y wladwriaeth yn dod i ben, mae’r bygythiad o ddiweithdra torfol yn un real.

“Unwaith eto, gweithwyr ifanc sydd yn gadael ysgol a choleg ac yn chwilio am waith am y tro cyntaf, a merched, yn enwedig yn sectorau manwerthu a lletygarwch, sydd yn dioddef fwyaf.”

Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai ymysg bobol rhwng 16 a 24 oed mae’r gwymp fwyaf mewn cyflogaeth.

Mae Shavanah Taj yn mynnu bod “rhaid i Lywodraeth Prydain weithredu nawr er mwyn achub a chreu swyddi”.

“Golyga hyn fod rhaid adeiladu ar y cynllun ffyrlo er mwyn creu bargen newydd i gynnal swyddi a gwella sgiliau gweithwyr, er mwyn sicrhau fod cwmnïau sydd yn debygol o oroesi yn gallu parhau i gyflogi eu staff,” meddai.

“Ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym wedi gyrru llythyr at Ganghellor Llywodraeth Prydain heddiw (Medi 15) yn galw am sefydlu cynllun pwrpasol yn sydyn.

“Byddai’r cynllun yn golygu creu swyddi da, mae dehongliadau diweddar TUC yn dangos y gallai Llywodraeth Prydain greu 59,000 swydd yn y ddwy flynedd nesaf drwy fuddsoddi mewn rhwydweithiau gwyrdd.

“Pan ddechreuodd yr argyfwng coronafeirws, dywedodd Canghellor Llywodraeth Prydain y byddai’n gwneud “beth bynnag sydd rhaid” – mae’n rhaid iddo gadw’r addewid.”

Galw ar Lywodraeth Prydain i herio hiliaeth systemig ac anghydraddoldeb

Mae ymchwil y TUC yn ddiweddar yn dangos bod gweithwyr croenddu ac o leiafrifoedd ethnig “mewn mwy o berygl” yn ystod y pandemig.

Dywedodd Shavanah Taj fod y “coronafeirws wedi arddangos yr anghydraddoldeb mae dynion a merched du a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu ym myd gwaith – gyda nifer fawr yn cael eu gorfodi i fod mewn mwy o berygl yn ystod yr argyfwng”.

“Mae Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig wedi eu gorgynrychioli’n fawr mewn swyddi â chyflogau isel a chyflogaeth achlysurol, gyda nifer ar gytundebau oriau sero a heb dâl salwch.

“Yn ystod y pandemig, mae nifer o bobol groenddu ac o leiafrifoedd ethnig wedi talu am amodau gwaith gwael gyda’u bywydau.

“Mae’n rhaid i’r argyfwng fod yn drobwynt.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain herio hiliaeth systemig a’r anghydraddoldeb sydd yn atal pobol groenddu a lleiafrifoedd ethnig ym myd gwaith a thu hwnt.”