Mae cwmni Hitachi wedi rhoi gwybod i Gyngor Môn nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda chynllun adeiladu atomfa Wylfa Newydd.

Byddai’r cynllun wedi costio hyd at £20bn, ac roedd ganddo’r potensial i bweru hyd at bum miliwn o gartrefi.

Roedd disgwyl i’r datblygiad fod yn un o brif gyflogwyr Ynys Môn – roedd 9,000 o weithwyr yn barod ar gyfer y cyfnod adeiladu.

Ond cyhoeddodd y cwmni fis Ionawr y llynedd y byddai’n atal yr holl waith ar y cynllun ar ôl methu â dod i gytundeb ariannol.

Roedd adroddiadau yn y wasg yn Japan fore heddiw (dydd Mawrth, Medi 15) y byddai’r cwmni yn tynnu’n ôl o’r cynllun, a bellach mae Cyngor Môn wedi cadarnhau’r amheuon.

‘Newyddion siomedig’

Yn dilyn y penderfyniad gan gwmni Hitachi, mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn, wedi gofyn am gyfarfod gyda llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Mae hyn yn newyddion siomedig, yn enwedig ar adeg mor anodd yn economaidd,” meddai Arweinydd Cyngor Môn wrth BBC Cymru.

Mae’n debyg i’r cyngor dderbyn llythyr gan y cwmni o Tokyo yn cadarnhau’r penderfyniad.

Dywedodd y datblygwr Horizon Nuclear, sy’n eiddo i Hitachi, na fyddai’n gwneud sylw ar y mater.