Mae’r Arglwydd Dafydd Wigley wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn disgwyl i aelodau seneddol “ddangos eu dannedd” wrth gyflwyno gwelliannau i Fil y Farchnad Fewnol yr wythnos nesaf.

Fe wnaeth Bil y Farchnad Fewnol – sy’n anwybyddu elfennau o fargen Brexit ac yn torri cyfraith ryngwladol – basio’r darlleniad cyntaf yn San Steffan neithiwr (nos Lun, Medi 14).

Cafodd ei basio o 340 o bleidleisiau i 263 – gyda saith aelod o’r DUP yn dangos eu cefnogaeth i Lywodraeth Geidwadol Prydain.

Gwelliannau

Bydd aelodau seneddol yn edrych yn fanylach ar y ddeddf o heddiw (dydd Mawrth, Medi 15) ymlaen, ac mae disgwyl y bydd pleidlais ar welliannau o ran y cymal ar Ogledd Iwerddon yn digwydd wythnos nesaf.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i Ogledd Iwerddon gadw at rai o reolau’r Undeb Ewropeaidd wedi cyfnod pontio Brexit, er mwyn osgoi “ffin galed” rhwng Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Golyga Bil y Farchnad Fewnol, fel y mae ar hyn o bryd, y byddai’r gofyniad am drefniadau tollau newydd yng Ngogledd Iwerddon yn diflannu.

Mae Micheal Martin, Taoiseach Iwerddon, eisoes wedi mynegi ei wrthwynebiad i’r Bil, gan ddweud bod y ddeddf yn “gythryblus iawn i Ogledd Iwerddon.

Nododd, yn ogystal, fod Bil y Farchnad Fewnol yn debygol o gael effaith ar drafodaethau rhwng Iwerddon a Phrydain yn y dyfodol gan “greu tensiynau.”

Disgwyl i ASau “ddangos eu dannedd”

“Nid yw’n syndod fod y bleidlais wedi ei phasio,” meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley wrth golwg360.

“Mae gan y Torïaid fwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin ac roedd yn debygol iawn y byddai’r Unoliaethwyr Democrataidd yn ochri â nhw.”

Dywedodd yr Arglwydd Wigley ei fod yn disgwyl i “aelodau seneddol sydd yn teimlo’n gryf dros yr achos ddangos eu dannedd” yr wythnos nesaf pan fydd pleidlais yn cael ei chynnal ar y gwelliannau.

“Wrth fynd ymlaen i Dŷ’r Arglwyddi, tybiaf y bydd Bil y Farchnad Fewnol yn mynd i drafferthion gan fod nifer fawr o’r Arglwyddi yn erbyn y cymal ar Iwerddon, a’r hyn mae’r ddeddf yn ei olygu i ddatganoli,” meddai wedyn.

“Mae gan Lywodraeth Prydain yr hawl i ddiystyru Tŷ’r Arglwyddi, gan nad ydynt wedi eu hethol – dyma wendid mwyaf Tŷ’r Arglwyddi.”