Mae rhestr o gyflogau ucha’r BBC wedi datgelu bod Huw Edwards yn ennill £465,000 y flwyddyn am ei waith ar y newyddion ac ar adeg etholiadau.

Mae enwau’r holl gyflwynwyr ‘Talent’ wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Medi 15), yn fuan ar ôl i bobol dros 75 oed orfod dechrau talu am eu trwydded yn unol â phrawf moddion.

Dydy cyflogau sy’n cael eu rhoi trwy gynllun BBC Studios – cynllun sy’n cynnwys Strictly Come Dancing, Antiques Roadshow a Doctor Who – ddim yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r rhestr hon.

Gary Lineker, cyflwynydd Match of the Day, sy’n ennill y cyflog mwyaf – £1.75m – ond daeth cadarnhad y bydd ei gyflog yn cael ei gwtogi ac mae wedi dweud ar Twitter bod ei “feddyliau gyda’r rhai sy’n hoffi casáu”.

Zoe Ball (£1.36m) sy’n ennill y cyflog mwyaf o blith cyflwynwyr benywaidd y BBC.

Mae Graham Norton yn ennill rhyw £725,000 am ei raglen ar Radio 2 ac am beth gwaith teledu, ond nid ei sioe sgwrs.

Ymhlith y cyflogau eraill mae:

  • Steve Wright (Radio 2) – tua £475,000
  • Fiona Bruce (Question Time, heb gynnwys Antiques Roadshow) – mwy na £450,000
  • Vanessa Feltz – tua £405,000
  • Lauren Laverne (Desert Island Discs) – mwy na £395,000
  • Stephen Nolan (5 Live), Alan Shearer (Match of the Day) – mwy na £390,000

Cymry ar y rhestr:

  • Jason Mohammad (BBC Cymru, Final Score, y Ras Gychod, Radio 2) – £285,000 – £289,999
  • Jeremy Bowen (Golygydd y Dwyrain Canol) – £220,000 – £224,999

‘Tryloywder’

Fe fu’r BBC yn gwrthwynebu cyhoeddi’r fath restr yn y gorffennol, gan ddweud mai “siarter y potsiwr” fyddai hi.

Ond mae’r Arglwydd Tony Hall, y cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol, wedi croesawu’r “tryloywder”.

Daw’r rhestr ar adeg pan fo dyfodol cyllido’r BBC yn cael ei drafod, wrth i’r cynllun trwyddedau presennol ddirwyn i ben ar Ragfyr 31, 2027.

Gallai osgoi talu’r drwydded gael ei ddatgriminaleiddio, ond mae’r Gorfforaeth yn rhybuddio y byddai hynny’n costio mwy na £200m y flwyddyn iddyn nhw.

Cafodd prawf moddion i bobol dros 75 oed ei gyflwyno fis diwethaf ar ôl oedi yn sgil y coronafeirws, a bydd pobol sy’n derbyn credyd pensiwn yn cael eu heithrio.

Ymateb y BBC

Yn ôl Tim Davie, olynydd yr Arglwydd Hall, mae Gary Lineker wedi cael torri 23% oddi ar ei gyflog ac mae’n dweud bod y BBC “yn freintiedig o gael y fath ddarlledwr rhagorol”.

Mae’n dweud bod Lineker yn enghraifft o’r “talent a’r gwerth gorau”.

“O diar,” meddai Lineker ar Twitter wedyn. “Meddyliau ar hyn o bryd gyda’r rhai sy’n hoffi casáu.”

Ond mae’r BBC yn dweud eu bod nhw am dorri i lawr ar ddefnydd y cyflwynwyr o’r cyfryngau cymdeithasol, gan bwysleisio bod “Gary yn gwybod fod ganddo fe ddyletswydd i’r BBC yn nhermau ei ddefnydd o’r cyfryngau cymdeithasol”.