Gallai perchnogion wynebu pum mlynedd o garchar os ydyn nhw’n methu ag atal eu cŵn rhag brathu’r postmon.

Mae barnwyr yn yr Uchel Lys wedi dod i’r penderfyniad ar ôl i weithiwr y Post Brenhinol golli blaen ei fys wrth ddanfon llythyrau yn Darlington, Swydd Durham, meddai Country Living.

Doedd gan y ci ddim hanes o fod yn ymosodol, a wnaeth y perchennog ddim byd i’w atal.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil cynnydd sylweddol mewn parseli yn cael eu danfon i gartrefi, oherwydd y cyfnod clo, ac mae’r penderfyniad yn berthnasol i unrhyw un sydd yn danfon papurau newydd, llythyrau, parseli neu bamffledi.

Gan fod angen i nifer o’r postmyn gael tystiolaeth ffotograffig eu bod wedi danfon y parsel mae’n cynyddu’r siawns o ddod i gyswllt â chi.

“Cŵn ymosodol yn parhau i fod yn broblem”

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae milfeddygon wedi rhoi cyngor ar sut i adnabod a thrin cŵn ymosodol a thiriogaethol.

Dywedodd Dr Huw Stacey, milfeddyg a chyfarwyddwr gwasanaethau clinigol Vets4Pets, bod “cŵn ymosodol yn parhau i fod yn broblem gyffredin ledled Prydain, a bod cŵn tiriogaethol yn parhau i gael eu camddeall.

“Gall nifer o gŵn na ddangosodd ymddygiad tiriogaethol o’r blaen fod wedi datblygu tueddiadau felly dros y cyfnod clo, ar ôl treulio cymaint o amser adre gyda’u perchnogion.”

“Mae hyn, a dyfarniad yr Uchel Lys fod perchnogion yn gyfrifol os yw eu ci yn ymosod ar bostman, yn golygu ei bod yn bwysicach nac erioed i adnabod ymddygiad ymosodol cŵn, a dysgu sut i’w trin a’u rheoli yn briodol.

“Mae nifer o berchnogion yn credu nad yw eu ci yn ymosodol gan nad ydyw wedi ymosod na brathu neb o’r blaen, ond gall ymddygiad ymosodol godi yn sgil sefyllfaoedd penodol.

“Yn anffodus, golyga hyn fod postmyn yn fwy tebygol o gael eu brathu yn sgil eu swydd.”

Cyngor ar sut i drin cŵn ymosodol

Wrth rannu ychydig o gyngor ar sut i atal ci rhag ymddwyn yn ymosodol a thiriogaethol nododd Huw Stacey y dylid cadw’r ci mewn ystafell arall pan ddaw ymwelwyr draw, rhoi bwyd i’r ci er mwyn denu ei sylw oddi wrth ymwelwyr, neu gael blwch post tu allan i’r tŷ.

Pwysleisiodd fod sylw yn bwysig i gŵn, ac y dylid aros yn dawel o’i amgylch pan ddaw rhywun i’r drws.

Yn ôl y milfeddyg, mae’n well atal y ci rhag bod yn ymosodol yn lle cyntaf a thrio annog cŵn bach i gymdeithasu ag ymwelwyr, a phostmyn, cyn gynted â phosib.

Ychwanegodd y dylid ymweld â milfeddyg am gyngor pellach os oes gennych bryderon.