Annibyniaeth yw’r “unig ffordd i achub datganoli”, yn ôl Siôn Jobbins, cadeirydd YesCymru.

Daw ei sylwadau wrth siarad â golwg360 yn dilyn pleidlais ar gam cyntaf Bil y Farchnad Fewnol – sydd yn osgoi elfennau o fargen Brexit – yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (Medi 14).

Mae nifer o wleidyddion wedi yn cyhuddo’r Bil o ymosod ar ddatganoli, gyda Nicola Sturgeon yn dweud ei fod yn “ymosodiad amlwg ar ddatganoli”.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles wedi beirniadu Llywodraeth San Steffan am “aberthu dyfodol yr undeb drwy ddwyn pwerau oddi wrth weinyddiaethau datganoledig”.

Yr un yw gwrthwynebiad Siôn Jobbins, sy’n dweud bod Llywodraeth Prydain yn llwyddo i gael gwared ar ddatganoli “drwy’r drws cefn,” gan wneud yr hyn “maent wedi methu a’i wneud” mewn dau refferendwm blaenorol ar ddatganoli.

Pleidleisiodd Cymru dros ddatganoli yn 1997 ac o blaid rhoi rhagor o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol, neu Senedd Cymru erbyn hyn, yn 2011.

“Datganoli ddim am ddal”

“Mae Llywodraeth Prydain wedi ei gwneud yn ddigon amlwg eu bod yn barod i dorri cyfraith ryngwladol, felly mae’n bendant eu bod yn barod i dorri addewidion mewnol, hefyd,” meddai Siôn Jobbins wrth golwg360.

“Dydy datganoli ddim am ddal.

“Bydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth yn fuan iawn.

“O fewn y deg mlynedd nesaf bydd Cymru naill ai yn annibynnol neu yn rhan o Loegr,” rhybuddiodd.

“Rhywbeth dros dro ydi datganoli.”

Dywedodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, mai annibyniaeth yw’r “unig ffordd” o warchod democratiaeth yng Nghymru.

Mewn trydariad yr wythnos ddiwethaf, dywedodd mai “ethol Llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth fis Mai nesaf yw’r ymateb gorau i ymgais San Steffan i fwlio Cymru”.

Ac mae Siôn Jobbins yn pwysleisio bod “rhaid pleidleisio dros annibyniaeth.”

Cynnydd yn y gefnogaeth i YesCymru

“Dros yr wythnosau nesaf mae YesCymru wedi gweld cynnydd yn eu haelodau, ac mae disgwyl i’r aelodaeth gynyddu eto yn sgil effaith Bil y Farchnad Fewnol ar ddatganoli,” meddai Siôn Jobbins.

“Mae’r mudiad wedi gweld nifer o bobol sydd yn nodi nad ydynt yn genedlaetholwyr yn ymuno, ac wedi penderfynu gwneud hynny yn sgil celwydd ac anonestrwydd Llywodraeth Prydain.

“Mae’r cefnogwyr yn mynnu cyfraith wlad deg, a llywodraeth dda a theg yn hytrach na’r celwydd maent yn ei weld gan lywodraeth lwgr San Steffan.”