Mae masgiau clir yn cael eu treialu gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn helpu staff i gyfathrebu’n well â’u cleifion.
Y gobaith yw y bydd y masgiau’n helpu cleifion sydd wedi colli eu clyw neu sy’n byw â dementia.
Mae modd gweld drwy’r masgiau ac mae dyfais gwrth-stemio arnyn nhw i sicrhau bod y wyneb a’r geg yn weladwy bob amser.
Mae Kathryn Davies, Uwch-gymhorthydd Awdioleg yn Ysbyty Maelor Wrecsam sydd wedi colli ei chlyw mewn un glust, yn croesawu’r newyddion.
“Yn sgil y pandemig, mae fy nghydweithwyr a minnau’n gwisgo masgiau yn y gwaith, ac mae hyn wedi creu trafferthion i mi gyfathrebu a nhw,” meddai.
“Mae fy nyletswyddau yn y gwaith wedi newid hefyd, oherwydd dw i ddim wedi teimlo’n ddigon hyderus i gyfathrebu gyda chleifion wrth wisgo masg.
“Nid yn unig y bydd hyn yn gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus yn y gwaith a chyfathrebu’n well gyda fy nghydweithwyr, ond bydd o fudd mawr i’n cleifion hefyd.”
‘Prosiect arloesol’
Mae’r datblygiad yn rhan o brosiect arloesol sydd wedi’i ariannu gan Awyr Las, elusen y Gwasanaeth Iechyd yn y gogledd.
“Roedd ein hawdiolegwyr wedi nodi’r angen am fasgiau wyneb clir ers mis Ebrill,” meddai Dr Sarah Bent, Prif Wyddonydd Clinigol Awdioleg y prosiect.
“Ers hyn, rydym wedi bod yn profi gwahanol opsiynau addas ar gyfer darllen gwefusau a gweld y wyneb, a byddwn yn cyhoeddi ein canlyniadau’n fuan.
“Bellach rydym yn cydweithio â chwmnïau ledled Cymru a Lloegr i gynllunio a datblygu opsiynau gwahanol sy’n addas ar gyfer gofal iechyd a chymdeithasol.
“Rydym yn gobeithio y bydd sawl opsiwn arall, gan gynnwys y rhai a wnaed yng Nghymru, yn dilyn yn fuan.”
Galw am eglurder
Mae Mark Isherwood, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru am ddosbarthu’r masgiau clir.
“Nawr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cymeradwyo masgiau clir i’w defnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, rydw i’n galw am eglurhad gan Lywodraeth Cymru ar sut y bydd y masgiau yn cael eu dosbarthu yng Nghymru,” meddai.
“A fydd y dosbarthiad yn cynnwys lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cartrefi gofal, a sut fydd sefydliadau fel hyn yn cael mynediad i’r offer yma?
“Hefyd, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad parhaus i ateb y galw?”