Mae cwmni Hitachi wedi cadarnhau nad ydyn nhw am fwrw ymlaen gyda chynllun i adeiladu atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn – newyddion sydd wedi ennyn ymateb cymysg.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad gan fod 20 mis ers iddyn nhw atal y gwaith adeiladu dros dro, a bod Covid-19 wedi gwneud yr “amgylchedd buddsoddi yn fwy difrifol”.

Cyhoeddodd y cwmni fis Ionawr y llynedd y byddai’n atal yr holl waith ar y cynllun ar ôl methu â dod i gytundeb ariannol.

Rhoddodd Hitachi wybod i Gyngor Môn ddoe (dydd Mawrth, Medi 15) na fyddai’r cwmni yn parhau â’r cynllun gwerth £20bn.

Roedd disgwyl i’r datblygiad fod yn un o brif gyflogwyr Ynys Môn, gyda 9,000 o weithwyr yn barod ar gyfer y cyfnod adeiladu.

‘Rhagweladwy’

Yn ôl Undeb GMB, mae llywodraethau olynol yn gyfrifol am benderfyniad Hitachi i dynnu’n ôl o Wylfa Newydd.

“Mae’r cyhoeddiad hollol ragweladwy hwn gan Hitachi yn ganlyniad methiant llywodraethau olynol i weithredu’n benderfynol ynghylch niwclear newydd,” meddai Justin Bowden, ysgrifennydd cyffredinol undeb y GMB.

Eglurodd yr Undeb fod angen o leiaf chwech o orsafoedd ynni niwclear yng ngwledydd Prydain i ddiwallu anghenion ynni a thargedau gwyrdd y dyfodol.

Croesawu’r newyddion

Er hyn mae PAWB (Pobol Atal Wylfa B) wedi croesawu’r newyddion.

“Byddai gorsaf niwclear wedi peryglu bywydau ar Ynys Môn a thu hwnt am genedlaethau i ddod, nid yn unig ein cenhedlaeth ni,” meddai llefarydd ar ran PAWB.

“Byddai wedi difetha’r amgylchedd dros ardal eang, ddeg gwaith mwy na’r safle presennol.”

Mae PAWB wedi galw ar Hitachi i sicrhau na fydd yna gynllun niwclear arall yn medru digwydd ar y safle yn y dyfodol.

Opsiynau newydd i Fôn

Mae Rhun ap Iorwerth Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn wedi galw am weithredu brys i drafod opsiynau newydd ar gyfer Ynys Môn.

“Rhaid codi gêr yn y gwaith o sicrhau cyfleoedd eraill yma ym Môn, yn cynnwys meysydd yr ydw i’n gefnogol iawn iddyn nhw, mewn ynni môr, ynni hydrogen ac uwch-dechnoleg ym mharc gwyddoniaeth MSparc er enghraifft.

“Byddaf yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her honno fel mater o flaenoriaeth.

“Roedd Horizon yn dweud hyd at yr wythnosau diwethaf bod eu rhiant-gwmni, Hitachi, yn dal yn obeithiol o ennill cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Yn amlwg mae hynny wedi methu, a gobeithion y rhai fu’n dymuno gweld datblygiad gorsaf ynni newydd wedi cael eu codi a’u chwalu eto.

“I mi, dyma oedd y perygl mewn rhoi gormod o ddibyniaeth ar fuddsoddiad allanol ac ar allu llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddelifro.”

“Siom fawr”

Eglurodd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, ei bod hi wedi bod yn gweithio’n galed i gefnogi’r prosiect.

“Mae’n siom fawr clywed bod Hitachi wedi tynnu yn ôl”, meddai.

“Dros y misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio’n galed gyda rhanddeiliaid yn lleol ac yn genedlaethol i hyrwyddo a chefnogi’r prosiect hwn.

“Siaradais neithiwr â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ac rwyf wedi cysylltu â’r Prif Weinidog ynglŷn â’r mater.

“Fodd bynnag, rwy’n parhau’n i weithio’n galed i gyrraedd fy addewid i ddod â swyddi o safon, cyflogwyr a buddsoddiad i Ynys Môn.

“Rwy’n dal i gredu bod safle Wylfa yn cynnig cyfleoedd gwych i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflawni ei hamcanion di-garbon.”

“Siomedig iawn”

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer Cydffederasiwn Diwydiant Prydain:

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn, i economi Gogledd Cymru a chynnydd y DU tuag at net-sero. Erys niwclear yn rhan bwysig o’r jig-so ar gyfer darparu’r cyflenwadau hanfodol o drydan carbon isel sydd eu hangen arnom i bweru ein heconomi carbon isel yn y dyfodol.

“Yn gynharach yr wythnos hon galwodd y CBI am sicrhau polisi ar y modelau ariannu ar gyfer niwclear newydd fel rhan o becyn o fesurau sydd eu hangen i sbarduno adferiad gwyrdd o’r pandemig, a chefnogi swyddi ledled y wlad – gall adeiladu a gweithredu gorsafoedd pŵer niwclear ddarparu miloedd o swyddi a phrentisiaethau.

“Mae’r newyddion am Wylfa yn tanlinellu’r angen dybryd am weithredu beiddgar o bob rhan o’r llywodraeth i sbarduno buddsoddiad busnes sy’n gallu sicrhau allyriadau net-sero, gydag adweithyddion niwclear a modiwlaidd bach ar raddfa fawr yn angenrheidiol fel rhan o’n cymysgedd ynni yn y dyfodol.

“Mae’n hanfodol bod busnes a llywodraeth yn parhau i ddatblygu’r cyfleoedd ar gyfer niwclear newydd ar Ynys Môn, safle a chymuned sydd â llawer i’w gynnig i’r diwydiant o hyd.”