Mae ynys Barbados yn bwriadu cefnu ar Frenhines Loegr a dod yn weriniaeth erbyn mis Tachwedd y flwyddyn nesaf.

Yn ôl araith y prif weinidog Mia Mottley, roedd prif weinidog cynta’r ynys Errol Barrow wedi rhybuddio rhag “loetran ar fangre’r ymerodraeth”.

“Mae Barbadiaid eisiau Pennaeth Gwladol Barbadaidd,” meddai’r Fonesig Sandra Mason, Llywodraethwr Cyffredinol yr ynys, wrth draddodi’r araith ar ran y prif weinidog.

Dywedodd fod yr alwad yn dangos “hyder o ran pwy ydyn ni a beth allwn ni ei gyflawni”.

Bydd yr ynys yn dathlu 55 mlynedd o annibyniaeth y flwyddyn nesaf, ond fe fu Brenhines Loegr yn bennaeth cyfansoddiadol arni ers hynny.

Roedd adroddiad o’r cyfansoddiad yn 1998 wedi argymell y dylai’r ynys ddod yn weriniaeth, barn a gafodd ei hategu gan y prif weinidog Freundel Stuart yn 2015.

Mae Trinidad & Tobago, Dominica a Guyana eisoes wedi cefnu ar y Frenhines, tra bod cynllun tebyg ar droed yn Jamaica.