Mae perchennog Caffi Kiki, bwyty Groegaidd ym Mlaenau Ffestiniog, yn cyfaddef fod nifer o elfennau cadarnhaol wedi dod o’r cyfnod clo yn sgil cefnogaeth leol.

Bu’n rhaid i’r perchennog Kiki Rees-Stavros gynyddu oriau agor y caffi yn ystod yr haf er mwyn ateb y galw ar adeg o ansicrwydd.

Roedd cynllun Llywodraeth Prydain, ‘Eat Out to Help Out’, o fudd mawr i’r bwyty, sy’n cynnig prydiau i fynd yn ogystal â bwyta i mewn.

“Mae’n gas gen i gyfaddef fod unrhyw bolisi gan y llywodraeth yma wedi bod yn llwyddiant, ond mi oedd hwn yn help mawr â dweud y gwir,” meddai Kiki Rees-Stavros wrth golwg360.

“Fe wnes i ei drio ar ddydd Mawrth a dydd Mercher i ddechrau, ond yn fuan roedd rhaid i mi agor chwe diwrnod yr wythnos i ffitio pawb i mewn.

“Dwi ‘di cael sawl cwsmer newydd sydd wedi dod yn ôl ar ôl i’r cynllun ddarfod hefyd, sy’n neis i’w weld.”

Dechreuodd Caffi Kiki ar y cynllun wythnos yn hwyr, ac “roedd hi’n prysuro bob dydd felly roedd yn biti ei fod wedi dod i ben,” meddai.

“Rydw i wedi clywed am rai busnesau sydd yn parhau i gynnig gostyngiadau allan o’u pocedi eu hunain, ond yn anffodus fedra i ddim fforddio gwneud hynny,” meddai wedyn.

Mae busnesau bach eisoes wedi galw am ymestyn y cynllun.

“Ansicrwydd yn gallu dal y busnes yn ei ôl”

Bydd Caffi Kiki yn parhau i fod ar agor yn ystod y gaeaf ar nos Wener a nos Sadwrn, er ei bod yn cyfaddef mai’r broblem fwyaf “yn nhermau ail-agor y busnes oedd y rheol dwy fedr.”

Penderfynodd na “fyddai’n ymarferol agor yn y lleoliad arferol yn Sgwâr Blaenau Ffestiniog oherwydd bod y caffi mor fach”.

Yn hytrach, mae hi wedi bod yn rhannu gofod busnes gyda’i mam yn Lakeside Cafe, yn Nhanygrisiau, ac er ei bod yn cyfaddef ei bod yn “lwcus iawn i allu gwneud hyn,” mae rhannu gofod yn “gallu bod yn anodd”.

Her arall sydd wedi wynebu Caffi Kiki yw’r “ffaith fod rheolau yn newid mor aml, mae hi wedi bod yn anodd dod o hyd i arweiniad penodol, a dwi’n meddwl fod lot o gyfrifoldeb wedi disgyn ar fusnesau i asesu’r sefyllfa’u hunain”.

“Ac wrth gwrs, mae ansicrwydd yn gyffredinol yn gallu dal y busnes yn ei ôl, pethau megis bod yn gyndyn i archebu gormod o stoc neu gyflogi rhywun newydd, rhag ofn fydd cyfnod clo arall!” meddai.

“Gobeithiol, ond petrusgar”

Er hynny, mae Kiki, sydd yn cyflogi dwy “ffrind arbennig” ac yn gwerthfawrogi help ei phartner a’i mam, yn nodi fod “rhai pethau positif wedi dod allan o’r profiad.”

“Roeddwn i’n torri fy nghalon ym mis Mawrth achos roeddwn i’n meddwl fod y busnes ar fin bod yn llwyddiannus, ond erbyn hyn rydw i wedi profi fod y busnes yn gallu gwrthsefyll amseroedd caled diolch i’r holl gefnogaeth leol,” meddai.

Yn ogystal, mae’r cyfnod wedi profi iddi “bod y busnes yn gallu bod yn hyblyg ac yn gallu esblygu, drwy gynnig bwyd i fynd, ac agor fel pop-up“.

“Rydw i’n gobeithio mynd yn ôl i’r parc yn y Sgwâr flwyddyn nesaf, neu hyd yn oed i leoliad mwy.

“Dwi’n obeithiol, ond petrusgar, ar hyn o bryd.”