Mae Jeremy Miles, Gweinidog Pontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, wedi amlinellu ei bryderon am Fil y Farchnad Fewnol.
Yng nghyfarfod llawn y Senedd ddoe (Medi 15), eglurodd y Gweinidog fod y Bil yn tanseilio’r gwaith sydd wedi ei wneud dros y tair blynedd diwethaf i adael yr Undeb Ewropeaidd.
“I bob pwrpas mae’r Bil yn tanseilio’r gwaith hwn trwy gynnig ffordd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddileu hawl y Senedd i reoleiddio meysydd datganoledig,” meddai.
“Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod y ddeddfwriaeth yma yn niweidiol iawn.
“Byddwn yn gweithio gyda gwleidyddion o bob plaid i sicrhau – oni bai ei fod yn cael ei ailwampio – nad yw’r Bil hwn yn cyrraedd y Llyfr Statud.”
Aeth y Gweinidog yn ei flaen i egluro sut fyddai pob un o’r wyth rhan o’r Bil yn effeithio ar Gymru.
Rhannau 1 a 2
Byddai Rhannau 1 a 2 o’r Bil yn gorfodi egwyddorion o gydweithio rhwng gwledydd Prydain yn ymwneud â nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu mewnforio.
“Byddai hyn yn golygu, er enghraifft, er y gallem wahardd naw math o blastigau un defnydd yng Nghymru pe byddent yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru neu eu mewnforio i Gymru,” meddai.
“Ond ni fyddem yn gallu atal yr un cynhyrchion hyn a gafodd eu cynhyrchu neu eu mewnforio i Loegr neu’r Alban rhag cael eu gwerthu yng Nghymru pe bai modd eu gwerthu yno’n gyfreithlon.
Er nad yw’r rhannau hyn yn atal pwerau’r Senedd, eglurodd Jeremy Miles ei fod yn “diystyru” pwerau’r Senedd gan fod y mwyafrif llethol o nwyddau sydd ar werth yng Nghymru yn dod drwy rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
Rhan 3
Mae Rhan 3 yn ceisio gosod yr un dull ar gymwysterau proffesiynol.
Eglurodd Jeremy Miles nad yw’n glir eto a fyddai rhan 3 yn ei gwneud yn amhosibl atal athrawon o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig sydd heb y cymwysterau a’r profiad sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru rhag dysgu yng Nghymru.
Mae’r proffesiwn cyfreithiol wedi’i eithrio.
Rhan 4
Mae Rhan 4 o’r Bil yn rhoi’r cyfrifoldeb am Swyddfa’r Farchnad Fewnol i Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
“Mae’r swyddogaethau a gynigir ar gyfer y Swyddfa hon yn rhai y gallem yn gyffredinol eu cymeradwyo,” meddai Jeremy Miles.
“Ond mae’n gwbl amhriodol y dylid rhoi’r rôl hon i Adran an-Weinidogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”
Rhan 5
Mae Rhan 5 o’r Bil yn ymwneud â Phrotocol Gogledd Iwerddon.
“Bydd unrhyw un sy’n credu ym mhwysigrwydd y gyfraith, a phwysigrwydd cadw at gytundebau cyfreithiol wedi gwylltio y gallai’r Llywodraeth gynnig pwerau gweinidogol sydd yn torri cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol,” meddai.
“Mae’r cynnig yma hefyd yn fygythiad i borthladdoedd Cymru sy’n ddibynnol ar gludo nwyddau o ynys Iwerddon – byddai’n annog defnyddio llwybrau fferi o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.”
Rhan 6
Am y tro cyntaf ers 21 mlynedd, bydd rhan 6 o’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y Deyrnas Unedig i ariannu prosiectau mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru – ym maes datblygu economaidd, iechyd, tai ac addysg, chwaraeon a diwylliant.
“Gadewch i ni fod yn glir am un peth – mae Llywodraeth yn San Steffan sy’n ceisio cael y pŵer i wario mewn meysydd datganoledig, a’r pŵer i reoli’r cyllid sydd ar gael, yn llywodraeth sy’n ceisio cael gwared ar ddatganoli”, meddai Jeremy Miles.
“Mae Llywodraeth sydd wedi methu â buddsoddi yn y pethau y mae ganddynt gyfrifoldeb amdanynt eisoes yng Nghymru – rheilffyrdd, seilwaith band eang, y morlyn llanw ac ynni ar raddfa fawr – yn amlwg yn mynd i ariannu ei blaenoriaethau ei hun.
“Byddai hyn yn ein gadael â llai fyth o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion y bobol Gymreig sydd yn ein hethol, ac rydym yn ei gwasanaethu.”
Rhan 7
Mae Rhan 7 o’r Bil yn newid y setliad datganoli trwy ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o faterion a gadwyd yn ôl.
“Gallai diddordeb y Llywodraeth Geidwadol mewn cymorth gwladwriaethol arwain at aberthu Cytundeb Masnach Rydd gyda’r Undeb Ewropeaidd a chytundeb heddwch Gogledd Iwerddon”, eglurodd Jeremy Miles.
“Ond yn amlwg y bwriad yma yw ein cau allan rhag cyd-greu cyfundrefn cymorth gwladwriaethol gadarn ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ac mae hyn yn fygythiad sylweddol i fusnesau Cymru.”
Rhan 8
Mae Rhan 8 yn cynnwys cynnig a fyddai’n gwarchod y Bil ac yn ei gwneud yn amhosib i’r Senedd wneud newidiadau i’r Bil hyd yn oed pan fydd yn cael effaith uniongyrchol ar y Senedd.
Eglurodd Jeremy Miles fod y Senedd yn defnyddio’r pŵer yma yn “gynnil”.
Ond ychwanegodd fod y Senedd wedi defnyddio’r pŵer yma fwy o weithiau yn ystod y tair blynedd diwethaf nag yn y 18 mlynedd blaenorol.
Bydd y gwrthbleidiau yn dadlau am Fil y Farchnad Fewnol yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Medi 16).