Mae aelod o grŵp PAWB (Pobl Atal Wylfa B) yn dweud ei fod yn croesawu’r cadarnhad fod cwmni Hitachi am roi’r gorau i’w cynllun i adeiladu atomfa niwclear yn Wylfa.

Cyhoeddodd y cwmni fis Ionawr y llynedd y byddai’r holl waith ar y cynllun yn cael ei atal ar ôl methu â dod i gytundeb ariannol.

Rhoddodd Hitachi wybod i Gyngor Môn ddoe (dydd Mawrth, 15 Medi) eu bod yn tynnu allan o’r cynllun gwerth £20bn.

Croesawu’r penderfyniad

Mewn datganiad sydd yn croesawu’r penderfyniad, dywed PAWB y byddai “gorsaf niwclear wedi peryglu bywydau ar Ynys Môn a thu hwnt am genedlaethau i ddod, nid yn unig ein cenhedlaeth ni”.

“Byddai wedi creu tunelli o wastraff ymbelydrol, heb unrhyw ateb i’r broblem o gael gwared â’r gwenwyn,” meddai’r mudiad.

“Byddai wedi difetha’r amgylchedd dros ardal eang, ddeng gwaith mwy na’r safle presennol.”

“Hen bryn troi cefn ar y freuddwyd niwclear ffôl”

Dywedodd Robat Idris, ar ran PAWB, wrth golwg360, ei bod yn “hen bryd i ni droi cefn ar y freuddwyd niwclear ffôl, a throi at waith ac egni cynaliadwy”.

“Mae bron i ugain mlynedd wedi cael ei wastraffu, gan olygu nad yw’r economi ym Môn wedi datblygu mewn gwahanol ffyrdd dros y cyfnod,” meddai.

“Mae’n amser ailfeddwl ein economi, gan ddechrau o’r gwaelod a pheidio dibynnu ar achubiaeth allanol.”

Yn y datganiad, mae PAWB yn galw am economi wahanol drwy ddefnyddio rhai o’r cyfleusterau a gafodd eu creu i gefnogi Wylfa.

“Mae syniadau hyfyw a blaengar ar gael yn ein cymunedau lleol,” meddai.

“Briwsion o gefnogaeth yn unig a gafodd y rhain o’u cymharu â Wylfa.

“Mae aelodau o PAWB wedi bod yn cydweithio efo rhai o’r bobl sy’n gwneud gwaith mor dda yn eu cymunedau, megis Bro Môn, Cwmni Bro, Dolan, Partneriaeth Ogwen, Antur Aelhaearn, SAIL – mae’r rhain yn cynnwys nifer o fentrau eraill.

“Daeth yr amser i ddibynnu ar gewri cyfalafol i ben os ydym am greu gwell dyfodol.”

Mae PAWB yn galw “ar Hitachi i sicrhau na fydd yna unrhyw gynllun niwclear yn medru digwydd ar y safle yn y dyfodol, os gwerthir y safle i ddatblygwr arall”.

“Byddem yn croesawu trafodaeth rhwng Hitachi a thrigolion yr Ynys am adfer y safle, gan gynnwys y tai a ddymchwelwyd, i gyflwr cystal ag yr oedd cynt, a hynny er budd cymunedol,” meddai wedyn.

“Gwastraff”  

11 o flynyddoedd yn ôl, bu’n rhaid i Mared Edwards a’i theulu symud o’u cartref yng Nghemlyn er mwyn i Wylfa Newydd gael ei datblygu.

“Gwastraff ydy’r gair cynta’ ddaeth i’r meddwl wrth glywed na fydd cynlluniau Wylfa yn mynd yn eu blaen,” meddai’r fyfyrwraig drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth golwg360.

“O ystyried fod y chwalfa yng Nghemlyn ar raddfa fwy na Thryweryn, a hynny bellach am ddim rheswm, mae pawb sydd o’r ardal wedi’u bradychu’n llwyr.

“Roedd yna gymdeithas glos iawn yng Nghemlyn ddeng mlynedd yn ôl, ond mae pawb wedi mynd yn ddiarth erbyn hyn.

“Er hynny, dwi’n falch i ryw raddau oherwydd mae Cemlyn yn ardal mor brydferth sydd yn llawn natur, a hoffwn feddwl y caiff lonydd i barhau i fod felly am flynyddoedd i ddod.”