Bydd rheolau’r coronafeirws yn cael eu tynhau yn ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o’r feirws, meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd heddiw (dydd Mercher 16 Medi).
Daw amrywiaeth o fesurau newydd i rym o 6yh fory (dydd Iau 17 Medi). Mae’r mesurau fel a ganlyn:
- Ni chaniateir i bobl fynd i mewn i ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf, na’i gadael heb esgus rhesymol;
- Bydd yn ofynnol i bawb dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do – fel sy’n wir ledled Cymru;
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cwrdd am y tro. Ni fydd pobl yn gallu cwrdd ag aelodau o’u cartref estynedig dan do na ffurfio cartref estynedig;
- Bydd yn rhaid i bob safle trwyddedig gau am 11yh.
Y gyfradd drosglwyddo
Roedd 82.1 o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth yn Rhondda Cynon Taf dros y saith diwrnod diwethaf. Ddoe, roedd y gyfradd o brofion cadarnhaol yn 4.3% – dyma’r gyfradd uchaf yng Nghymru.
Mae timau olrhain cyswllt wedi gallu olrhain tua hanner yr achosion yn ôl i gyfres o glystyrau yn y fwrdeistref. Mae’r gweddill yn gysylltiedig â throsglwyddo cymunedol.
Mae nifer o glystyrau yn Rhondda Cynon Taf – dau ohonynt yn arwyddocaol. Mae un yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yn Rhondda Isaf a’r llall gyda chlwb yn mynd allan i rasys Doncaster, gan stopio mewn tafarndai ar y ffordd.
Bydd y cyfyngiadau newydd yn berthnasol i bawb sy’n byw yn ardal Rhondda Cynon Taf.
“Mae angen help pawb ledled Cymru”
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:
“Rydym wedi gweld cynnydd cyflym mewn achosion yn Rhondda Cynon Taf mewn cyfnod byr iawn, yn gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu dan do heb ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.
“Erbyn hyn mae gennym dystiolaeth o drosglwyddo cymunedol ehangach yn y fwrdeistref, sy’n golygu bod angen i ni gymryd camau brys i reoli ac, yn y pen draw, leihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd pobl.
“Mae angen help pawb ledled Cymru arnom i atal y feirws rhag lledaenu […] Gallwn reoli’r coronafeirws os bydd pawb yn tynnu ynghyd ac yn dilyn y rheolau rydym wedi’u rhoi ar waith. Maent yno i’ch amddiffyn chi, eich teulu, a’ch cymuned.”
“Siomedig ond nid Syndod”
Dywedodd yr aelod lleol o’r Senedd, Leanne Wood: “Mae’n siomedig ond nid yn syndod bod y Rhondda wedi dilyn bwrdeistref sirol Caerffili ac wedi mynd dan glo.
“Roedd hyn yn rhywbeth yr oeddem yn ofni y byddai’n digwydd oherwydd y cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo.
“Rwy’n annog pawb i ddilyn y canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol, golchi dwylo a dim ond cwrdd ag aelwydydd eraill yn yr awyr agored.
“Mae gwisgo masgiau wyneb y tu mewn i siopau hefyd yn hanfodol. Anogaf hefyd bawb y mae’r [gwasanaeth] olrhain yn cysylltu â nhw i gydweithredu’n llawn er mwyn i ni allu [rheoli’r] feirws.
“Gorau po gyntaf y byddwn yn rheoli hyn, [er mwyn] llacio’r cyfyngiadau a [sicrhau bod ein] hanwyliaid yn ddiogel.”
Cwestiynu’r rheolau i dafarndai a safleoedd trwyddedig
Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies, Cweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, wedi cwestiynu pam bod rhaid i dafarndai a safleoedd trwyddedig yn Rhondda Cynon Taf gau erbyn 11yh.
“Rhaid gwneud pob ymdrech i osgoi sefyllfa debyg mewn rhannau eraill o Gymru, sy’n cynnwys drwy ddysgu o’r ddau glo lleol hyn, a gwelaf fod rhai gwahaniaethau rhyngddynt”, meddai.
“Yn Rhondda Cynon Taf, mae’n rhaid i safleoedd trwyddedig gau erbyn 11yh, ond ni orfodwyd hyn yng Nghaerffili
“Rhaid i’r Gweinidog Iechyd egluro’r rhesymeg y tu ôl i hyn a rhoi arweiniad ledled Cymru i atal cloeon eraill.
“Fodd bynnag, dylai unrhyw gloi lleol fod am gyfnod mor fyr â phosibl.”
Cae Ras Doncaster yn cwestiynu sylwadau’r Gweinidog
Fodd bynnag, mewn datganiad yn ymateb i sylwadau’r Gweinidog Iechyd, dywedodd Cae Ras Doncaster y bu’n ofynnol iddo weithredu cronfa ddata olrhain llawn a chymryd manylion yr holl fynychwyr fel amod o gynnal y digwyddiad peilot yr wythnos diwethaf.
“Nid yw Cae Ras Doncaster wedi cael unrhyw gysylltiad at ddibenion olrhain gan unrhyw sefydliad, gan gynnwys y GIG na Llywodraeth Cymru, i gadarnhau presenoldeb unrhyw unigolion yn y digwyddiad yr wythnos ddiwethaf,” meddai.
“Yn ogystal, nid oes gennym unrhyw archebion tocynnau ar gyfer unrhyw grwpiau o ardal De Cymru ar gyfer digwyddiad dydd Mercher.
“Byddwn yn cysylltu â Gweinidog Iechyd Cymru fel mater o frys i egluro’r sefyllfa.”