Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio o blaid ymgynghoriad i gau Ysgol Abersoch yn haf 2021.

Byddai cau Ysgol Abersoch, a gyrru’r disgyblion i Ysgol Sarn Bach i barhau â’u haddysg gynradd, yn golygu arbedion o £96,062, yn ôl adroddiad Cyngor Gwynedd.

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod niferoedd disgyblion wedi gostwng yn gyson ers 2016, ac mae swyddogion addysg y cyngor o’r farn nad yw’r un ysgol yn gynaliadwy wrth weithredu ar 24% o’i chapasiti, yn ôl BBC Cymru Fyw.

Wrth glywed am benderfyniad y cabinet i fynd ymlaen â’r ymgynghoriad i gau Ysgol Abersoch dywedodd Dewi Wyn Roberts, Cynghorydd Abersoch, wrth golwg360, ei fod yn “siomedig iawn.”

“Fel ysgol roedd hi’n gwneud yn eithaf da, roedd y cylch Ti a Fi yno wedi ei enwebu ar gyfer gwobr yn y maes ac mae tystiolaeth o ysgolion eraill yn dangos fod cael y Mudiad Meithrin yn rhan o’r ysgol yn cynyddu’r niferoedd, ac mae cynnydd wedi bod yn barod.

“Nid yw’n ymddangos fel bod cabinet y cyngor wedi ystyried yr effaith gadarnhaol fydd y Mudiad Meithrin yn ei gael ar Ysgol Abersoch.

“Mae’r ysgol a’r plant yn llwyddiannus, a dwi’n gobeithio nad yw’r penderfyniad wedi ei seilio ar ffactorau ariannol yn unig” meddai.

Cau’r ysgol yn gwneud y frwydr dros yr iaith yn “llawer anoddach”

Dywedodd Dewi Wyn Roberts fod “yr ysgol yn cael dylanwad mawr ar yr iaith ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg yng nghanol y pentref.”

“Mae’r ffaith fod y disgyblion yn mynd i gaffis, i neuaddau, i gartrefi henoed, ac i’r traeth yn y pentref ac yn siarad Cymraeg yn hanfodol.”

Fel un sydd wrthi’n brwydro dros yr iaith yn yr ardal, bydd colli’r adnodd yma yn “negyddol iawn,” ac yn “gwneud y frwydr llawer anoddach” i’r Cynghorydd.

“Mae’n siomedig nad yw’r cabinet wedi gweld pwysigrwydd yr ysgol i’r iaith, a heb ddangos eu cefnogaeth.”

“Er nad yw Ysgol Sarn Bach ymhell o Abersoch, bydd y plant yn colli’r cysylltiad â’u cynefin drwy beidio â mynd i’r ysgol yno, mater sy’n berthnasol i nifer o blant ar draws ardal ehangach,” ychwanegodd.

Parhau â’r ymgynghoriad yn “annheg”

“Dan yr amgylchiadau byddai’n gwbl annheg i’r cabinet barhau â’r ymgynghoriad,” mynnodd.

“Mae’r broses wedi bod yn anodd, nid ydym wedi cyfarfod â Phrifathrawes Ysgol Abersoch yn sgil profedigaethau, ac mae’n anodd iawn cynnal cyfarfodydd yn sgil canllawiau a chyfyngiadau Covid-19.”

“Ni fu’n bosib cynnal cyfarfod cyhoeddus er mwyn cael barn yr ardal, ac mae wedi bod bron yn amhosib cael cyfarfodydd o gwbl.”

“Rydw i wedi galw i’r mater gael fynd at sylw pwyllgor craffu Cyngor Gwynedd.”

Dywedodd John Brynmor Hughes, cynghorydd Llanengan, wrth golwg360, nad oedd am roi ei farn ar y penderfyniad.