Ar ôl chwech mis ges i gyfle o’r diwedd i wylio gêm fyw ar y penwythnos. Doedd yna ddim mynediad i’r cefnogwyr oherwydd Covid, ond roedd hi’n braf iawn cael gweld yr Oval yng Nghaernarfon eto, a minnau yno yn cynrychioli Golwg fel aelod o’r wasg.