Er nad oes gan y cefnogwyr yr hawl i fynd fewn i’r stadiwm i wylio gêm bêl-droed yn y Cymru Premier, mae criw o Gofis wedi adeiladu gantri er mwyn cael eu ffics o ffwtbol.

Roedd ganddyn nhw olwg fendigedig o gae’r Oval ar gyfer gêm gynta’ tymor newydd Uwchgynghrair Cymru, wrth i Gaernarfon gael gêm gyfartal, 1-1, yn erbyn Penybont.