Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am bobol i lenwi tair swydd newydd er mwyn arwain tîm rygbi merched Cymru.

Mae’r rhain yn cynnwys Prif Hyfforddwr newydd ar ôl i Rowland Phillips adael y swydd ym mis Mawrth eleni.

Bydd Arweinydd Perfformiad Ffisegol hefyd yn cael ei benodi yn ogystal ag unigolyn i arwain Rhaglen Genedlaethol i Ferched Hŷn.

Daw hyn wedi i’r Undeb ymrwymo i roi mwy o gefnogaeth i raglen berfformio’r merched gan ddarparu buddsoddiad ar gyfer strwythur hyfforddi newydd.

Dywed Undeb Rygbi Cymru y bydd penodi tîm hyfforddi newydd yn codi safonau gêm y merched cyn Cwpan Rygbi’r byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf a Gemau’r Gymanwlad yn 2022.

Mae Undeb Rygbi Cymru’n gobeithio y bydd y tîm hyfforddi newydd yn ei le erbyn yr hydref.

“Cryfhau”

“Rydym wedi cymeradwyo cynlluniau i dyfu’r gêm i fenywod ac i gryfhau ei hochr berfformio,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi i wneud cynnydd o ran cau’r bwlch rhyngom ni a’r gwledydd gorau o ran rygbi merched, sydd wastad wedi bod wrth wraidd ein strategaeth”.

Tra bod rheolwr cyffredinol Undeb Merched a Genethod Undeb Rygbi Cymru, Charlotte Wathan wedi dweud: “Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan a chodi safonau ar bob lefel o’r gêm i enethod a merched yng Nghymru a bydd codi safonau perfformiad drwy dîm ymroddedig o hyfforddwyr a staff perfformiad yn ein helpu’n fawr i gyflawni’r nodau hynny.

“Rhan o rôl y staff newydd hefyd fydd codi safonau hyfforddi a chyflyru ar draws y gêm fenywaidd yng Nghymru”.