Daeth cadarnhad fod Jefferson Montero a Courtney Baker-Richardson wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe ar ôl i’w cytundebau ddod i ben.

Sgoriodd Montero ddwy gôl mewn 84 o gemau dros gyfnod o chwe thymor ar yr asgell, gan dreulio cyfnod ar fenthyg yn Sbaen, Ecwador a West Brom.

Sgoriodd Baker-Richardson bedair gôl mewn 21 o gemau ar ôl ymuno â’r Elyrch yn 2017.

Ymhlith chwaraewyr yr Academi, mae Cameron Berry, Kees de Boer, Keiran Evans, Arnor Gudjohnsen, Tom Price a Marc Walsh hefyd wedi gadael y clwb.

Mae nifer o chwaraewyr iau wedi cael cytundebau proffesiynol am y tro cyntaf, sef Ali Al-Hamadi, Ryan Bevan, Bradley Gibbings, Jacob Jones a Jake Thomas, a phob un yn gytundeb 12 mis.

Mae Cameron Evans, Mason Jones-Thomas a Daniel Williams wedi ymestyn eu cytundebau tan ddiwedd y tymor ar Awst 4.

Clybiau eraill Cymru

Wrecsam

Yn y cyfamser, daeth cadarnhad fod 11 o chwaraewyr Wrecsam yn gadael y Cae Ras.

Dydy’r chwraewyr canlynol ddim yn rhan o gynlluniau’r rheolwr Dean Keates ar gyfer y dyfodol:

Jake Lawlor, Akil Wright, Luke Summerfield, Jazzi Barnum-Bobb, Jason Oswell, Doug Tharme, Leighton McIntosh, JJ Hooper, Matthew Sargent, Jack Thorn, Dawid Szczepaniak.

Mae nifer o chwaraewyr ar fenthyg – Kieran Kennedy, Jordan Ponticelli, Jordon Thompson, Kyle Barker a Tyler Garratt – wedi dychwelyd i’w clybiau.

Caerdydd

Daeth cadarnhad eisoes fod Jazz Richards, Omar Bogle a Matthew Connolly wedi gadael y clwb.

Casnewydd

O ran Casnewydd, mae cytundebau Scot Bennett, Jay Foulston, Jamille Matt, Dominic Poleon a Momodou Touray wedi dod i ben, ac mae Mark O’Brien wedi ymddeol.

Mae Jordan Green, Dale Gorman Ryan Innis, Otis Khan, George Nurse a Billy Waters i gyd wedi dychwelyd i’r prif glybiau’n dilyn cyfnodau ar fenthyg.