Dwi ddim yn Lerpwl pan mae o’n digwydd.

Dwi ddim mewn tafarn ar Great Charlotte Street neu Ranelagh Street, a dwi ddim mewn torf y tu allan i Anfield, yn chwysu’r cwrw a’r tywydd clos, cyn storm, i ‘nghrys pêl-droed. Dwi ddim mewn parti yn nhŷ’r ffrind sydd efo’r teledu HD mwyaf llydan yn gwylio ein ffawd yn cael ei phenderfynu fesul camsefylliad, fesul cic rydd, fesul gôl.