Y llyfr olaf – er nad y lleiaf – sydd o dan y chwyddwydr yw Madi, nofel am ferch ifanc sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia gan yr awdur o Fôn, Dewi Wyn Williams…

Am beth mae’r llyfr?

Thema’r nofel yw hunaniaeth, y pwnc yw anorecsia ond stori am deulu anweithredol yw hi sef tad, mam a’u hunig blentyn, Madi, sydd yn dioddef o anorecsia. Mae gan y tri gyfrinachau. Madi sydd yn adrodd y stori.