Mae dau o chwaraewyr Gweriniaeth Iwerddon, Matt Doherty a James McClean, wedi profi’n bositif am Covid-19.

Chwaraeodd y ddau 90 munud llawn wrth i’r Weriniaeth gael ei threchu gan Gymru nos Sul.

Mewn datganiad, dywedodd Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon:

“Gall Cymdeithas Bêl-droed Iwerddon gadarnhau bod Matt Doherty a James McClean wedi profi’n bositif am COVID-19.

“Profodd gweddill y staff a’r sgwad yn negyddol cyn yr awyren yn ôl i Ddulyn y bore yma ar gyfer y gêm yn erbyn Bwlgaria ddydd Mercher.”

Yna, cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ei bod yn ymwybodol o ganlyniadau’r ddau Wyddel, gan ddweud nad yw hynny’n effeithio ar eu paratoadau ar gyfer y gêm nos Fercher yn erbyn y Ffindir.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol bod dau chwaraewr Gweriniaeth Iwerddon oedd yn rhan o’r gêm neithiwr wedi profi’n bositif am COVID-19,” meddai’r FAW mewn datganiad.

“Nid effeithir ar baratoadau’r Tîm Cenedlaethol ar gyfer gêm Cynghrair y Cenhedloedd Unedig ddydd Mercher yn erbyn y Ffindir – maent yn parhau yn ôl y bwriad.

“Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i gadw at ganllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac UEFA yn ogystal â phrotocolau mewnol sydd wedi’u rhoi ar waith ers ailddechrau pêl-droed rhyngwladol eleni.”