Mae ymosodwr Cymru, David Brooks, yn edrych ymlaen at “gyfnod cyffrous” i’w glwb a’i wlad ar ôl 12 mis hunllefus gydag anafiadau.

Ni chwaraeodd Brooks gêm am dros flwyddyn ar lefel uwch oherwydd dwy lawdriniaeth ar ei bigwrn ac yna’r pandemig, a berodd oedi o dri mis i’r tymor.

Roedd y chwaraewr dawnus 23 oed yn dal i gael trafferth cael ei ffitrwydd llawn pan ddisgynnodd Bournemouth o’r Uwchgynghrair ym mis Gorffennaf, ac ni chwblhaodd 90 munud o bêl-droed cynghrair tan yn ddiweddar, ychydig cyn yr egwyl ryngwladol.

Sgoriodd Brooks ddwywaith ym muddugoliaeth 3-1 Bournemouth yn Birmingham ac adeiladodd ar hynny gyda’r gôl fuddugol wrth i Gymru guro Gweriniaeth Iwerddon 1-0 ddydd Sul i aros ar frig ei grŵp Cynghrair y Cenhedloedd.

‘Cyfnod cyffrous’

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i mi,” meddai Brooks ar ôl sgorio ei ail gôl i Gymru.

“Y llynedd roeddwn allan am 12 mis ac yna, ar nodyn personol, doeddwn i ddim yn gallu effeithio ar y tîm pan ddes i nôl gyda’r tîm yn brwydro yn erbyn y gwymp.

“Mae dechrau’r tymor hwn wedi dangos ein bod yn haeddu bod yn yr Uwchgynghrair ac rydyn ni i gyd yn tynnu i’r un cyfeiriad i ddychwelyd yno.

“Y prif ffocws yw helpu Bournemouth i ddychwelyd i’r Uwchgynghrair, ac yna mynd i ffwrdd a chael ymgyrch dda gyda Chymru yn yr Ewros.”

Yr eironi yw y gallai Brooks fod wedi cael trafferth cael ei gynnwys yng ngharfan Cymru pe na bai’r Ewros wedi’u gohirio am 12 mis oherwydd Covid-19.

Yn sicr, ni fyddai wedi bod yn agos at ffitrwydd llawn ar gyfer y twrnament.

“Mae bob amser yn bryder [am ddod yn ôl] pan fyddwch yn cael eich anafu, yn enwedig ar ôl i chi fod allan am 12 mis,” meddai Brooks.

“Roeddwn i’n gweithio’n galed iawn ac yna cafwyd y clo tua’r adeg roeddwn yn dod yn ôl.

“Doeddwn i ddim yn bles iawn pan ddigwyddodd hynna – achos ro’n i newydd wneud pedair neu bum wythnos o hyfforddiant cyn-tymor i gael fy ffitrwydd yn ôl.

“Roeddwn i i ffwrdd am dair wythnos ac yna es i’n syth i mewn i gyfnod cyn-tymor arall – doedd hynna ddim yn bleserus iawn!

“Mae’r tymor hwn wedi bod ychydig yn stop-start, gyda niggles bach. Ond roedd yn braf cael 82 munud yn y banc yn erbyn Iwerddon wrth i mi weithio’n ôl i ffitrwydd llawn, a dw i jyst yn ceisio aros yn ffit.”

Mae Cymru’n cwrdd â’r Ffindir yng Nghaerdydd nod Fercher i benderfynu pwy fydd yn ennill Grŵp B4 ac yn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair A.

Nid yw Cymru wedi colli mewn 10 gêm gystadleuol ac maent wedi cadw saith dalen lân yn olynol.

“Mae’n rhaid i chi edrych ar y [chwaraewyr o] safon yn ein hystafell newid, dydyn ni ddim yn mynd i mewn i unrhyw gêm gan feddwl am ddim byd heblaw cael triphwynt,” meddai Brooks.

“Byddwn yn ymosod nos Fercher yn yr un ffordd ag y gwnaethom yn erbyn Iwerddon, gan wybod mai ni yw’r tîm gorau, siŵr o fod, a dylen ni ennill y gêm honno.”